bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Lamentations 5
Lamentations 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Cofia, O ARGLWYDD, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.
2
Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.
3
Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.
4
Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.
5
Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.
6
Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.
7
Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.
8
Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.
9
Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.
10
Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.
11
Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.
12
Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.
13
Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.
14
Yr hynafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwŷr ieuainc â'u cerdd.
15
Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.
16
Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom!
17
Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.
18
Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.
19
Ti, ARGLWYDD, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd.
20
Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau?
21
Dychwel ni, O ARGLWYDD, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.
22
Eithr ti a'n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5