bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Mark 11
Mark 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
2
Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith.
3
Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a'i denfyn yma.
4
A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a'i gollyngasant ef yn rhydd.
5
A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?
6
A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith.
7
A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno.
8
A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u taenasant ar y ffordd.
9
A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd:
10
Bendigedig yw'r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.
11
A'r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i'r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda'r deuddeg.
12
A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd.
13
Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys.
14
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A'i ddisgyblion ef a glywsant.
15
A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A'r Iesu a aeth i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau'r arianwyr, a chadeiriau'r gwerthwyr colomennod:
16
Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy'r deml.
17
Ac efe a'u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw'n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd? ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
18
A'r ysgrifenyddion a'r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.
19
A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o'r ddinas.
20
A'r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.
21
A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino.
22
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw:
23
Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i'r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo.
24
Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.
25
A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau:
26
Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau.
27
A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid, a ddaethant ato,
28
Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?
29
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
30
Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi.
31
Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo?
32
Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd.
33
A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16