bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Mark 6
Mark 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
Ac efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i'w wlad ei hun; a'i ddisgyblion a'i canlynasant ef.
2
Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a'i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef?
3
Onid hwn yw'r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef.
4
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
5
Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'u hiacháu hwynt.
6
Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i'r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.
7
Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan;
8
Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i'r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau:
9
Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais.
10
Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno.
11
A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, ac ni'ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.
12
A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau:
13
Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleifion, ac a'u hiachasant.
14
A'r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
15
Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai proffwyd yw, neu megis un o'r proffwydi.
16
Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai'r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw.
17
Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi.
18
Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd.
19
Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd:
20
Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a'i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar.
21
Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i'w benaethiaid, a'i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea:
22
Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.
23
Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a'i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas.
24
A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.
25
Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.
26
A'r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef.
27
Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef.
28
Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddes i'r llances; a'r llances a'i rhoddes ef i'w mam.
29
A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i dodasant mewn bedd.
30
A'r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a'r rhai hefyd a athrawiaethasent.
31
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta.
32
A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o'r neilltu.
33
A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'u rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasglasant ato ef.
34
A'r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.
35
Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o'r dydd, y daeth ei ddisgyblion ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o'r dydd:
36
Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i'r wlad oddi amgylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i'w fwyta.
37
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a'i roddi iddynt i'w fwyta?
38
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn.
39
Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt.
40
A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau.
41
Ac wedi cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'u rhoddes at ei ddisgyblion, i'w gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.
42
A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon.
43
A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o'r briwfwyd, ac o'r pysgod.
44
A'r rhai a fwytasent o'r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.
45
Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i'r llong, a myned o'r blaen i'r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl.
46
Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i'r mynydd i weddïo.
47
A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir.
48
Ac efe a'u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o'r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt.
49
Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant.
50
(Canys hwynt oll a'i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch.
51
Ac efe a aeth i fyny atynt i'r llong; a'r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.
52
Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.
53
Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant.
54
Ac wedi eu myned hwynt allan o'r llong, hwy a'i hadnabuant ef yn ebrwydd.
55
Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o'r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef.
56
Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16