bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Mark 5
Mark 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
A hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlad y Gadareniaid.
2
Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo,
3
Yr hwn oedd â'i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:
4
Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono'r cadwynau, a dryllio'r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.
5
Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.
6
Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;
7
A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
8
(Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn.)
9
Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom.
10
Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.
11
Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.
12
A'r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
13
Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A'r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.
14
A'r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
15
A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai'r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.
16
A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.
17
A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o'u goror hwynt.
18
Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai'r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef.
19
Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt.
20
Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
21
Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr.
22
Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;
23
Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd.
24
A'r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.
25
A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,
26
Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth,
27
Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ôl, ac a gyffyrddodd â'i wisg ef;
28
Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.
29
Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o'r pla.
30
Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo'i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?
31
A'i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli'r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?
32
Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.
33
Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
34
Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.
35
Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi'r Athro?
36
A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
37
Ac ni adawodd efe neb i'w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.
38
Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu'r cynnwrf, a'r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.
39
Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw'r eneth, eithr cysgu y mae.
40
A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.
41
Ac wedi ymaflyd yn llaw'r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o'i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.
42
Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.
43
Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwyta.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16