bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Revelation 1
Revelation 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 2 →
1
Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder; a chan ddanfon trwy ei angel, efe a'i hysbysodd i'w wasanaethwr Ioan:
2
Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a'r holl bethau a welodd.
3
Dedwydd yw'r hwn sydd yn darllen, a'r rhai sydd yn gwrando geiriau'r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae'r amser yn agos.
4
Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a'r hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef;
5
Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o'r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,
6
Ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef; iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
7
Wele, y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef, ie, y rhai a'i gwanasant ef: a holl lwythau'r ddaear a alarant o'i blegid ef. Felly, Amen.
8
Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.
9
Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a'ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.
10
Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o'r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn,
11
Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r diwethaf: a'r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i'r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea.
12
Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur;
13
Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur.
14
Ei ben ef a'i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â'r eira; a'i lygaid fel fflam dân;
15
A'i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a'i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd.
16
Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o'i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a'i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth.
17
A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw'r cyntaf a'r diwethaf:
18
A'r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth.
19
Ysgrifenna'r pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a fydd ar ôl hyn;
20
Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a'r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a'r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22