bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Revelation 19
Revelation 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
1
Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i'r Arglwydd ein Duw ni:
2
Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â'i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.
3
Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A'i mwg hi a gododd yn oes oesoedd.
4
A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia.
5
A llef a ddaeth allan o'r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.
6
Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog.
7
Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratôdd ei hun.
8
A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint.
9
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw'r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw'r rhai hyn.
10
Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i'w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.
11
Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.
12
A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun:
13
Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw.
14
A'r lluoedd oedd yn y nef a'i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân.
15
Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro'r cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog.
16
Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI.
17
Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr;
18
Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion.
19
Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef.
20
A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r llyn tân yn llosgi â brwmstan.
21
A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cig hwynt.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22