bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Revelation 18
Revelation 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
1
Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, ac awdurdod mawr ganddo; a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef.
2
Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan, ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas.
3
Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi.
4
Ac mi a glywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch allan ohoni hi, fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfranogion o'i phechodau hi, ac na dderbynioch o'i phlâu hi.
5
Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi.
6
Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi'r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwpan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddauddyblyg.
7
Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.
8
Am hynny yn un dydd y daw ei phlâu hi, sef marwolaeth, a galar, a newyn; a hi a lwyr losgir â thân: oblegid cryf yw'r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi.
9
Ac wylo amdani, a galaru drosti, a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi, pan welont fwg ei llosgiad hi,
10
Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Babilon, y ddinas gadarn! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.
11
A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt:
12
Marsiandïaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor,
13
A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweision, ac eneidiau dynion.
14
A'r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt; ac ni chei hwynt ddim mwyach.
15
Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wylo a galaru.
16
A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau!
17
Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A phob llong-lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â'u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell,
18
Ac a lefasant, pan welsant fwg ei llosgiad hi, gan ddywedyd, Pa ddinas debyg i'r ddinas fawr honno!
19
A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant, gan wylo a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, trwy ei chost hi! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi.
20
Llawenha o'i phlegid hi, y nef, a chwi, apostolion sanctaidd a phroffwydi; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi.
21
Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.
22
A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach;
23
A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd.
24
Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaear.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22