bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Titus 1
Titus 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Paul, gwas Duw, ac Apostol Iesu Grist mewn perthynas i ffydd etholedigion Duw, a llawn‐wybodaeth o'r gwirionedd, yr hon sydd yn ol duwioldeb,
2
yng ngobaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw cyn amseroedd tragywyddol;
3
ac yn ei amseroedd priodol a amlygodd ei Air yn y Gennadwri a ymddiriedwyd i mi yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;
4
at Titus fy ngwir blentyn yn ol y ffydd gyffredinol: Gras,, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Hiachawdwr.
5
Er mwyn hyn y'th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit ym mhellach y pethau oedd yn ddiffygiol, ac y gosodit Henuriaid ym mhob dinas, fel y gorchymynais i ti.
6
Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn wr un wraig, a chanddo blant yn credu, heb eu cyhuddo o afradlonedd, ac yn afreolus:
7
canys rhaid i'r Arolygwr fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn hunan‐foddog, nid yn ddrwg ei dymher, nid yn wingar, nid yn darawydd, nid yn budr‐elwa;
8
eithr yn llettygar, yn caru y da, yn ddoeth, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn rheoli ei hun,
9
gan ddal yn lew wrth y gair ffyddlawn yn ol ein dysgeidiaeth, fel y bo yn alluog i gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi y rhai sydd yn gwrth‐ddywedyd.
10
Canys y mae llawer yn afreolus, ofer‐siaradus, a thwyllwyr, yn enwedig y rhai o'r Enwaediad,
11
y rhai y mae rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn ansefydlu teuluoedd cyfain, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr‐elw.
12
Dywedodd un o honynt hwy eu hunain, prophwyd o'r eiddynt eu hunain, “Cretiaid ydynt bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, gloddestwyr gorddiog.”
13
Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwynt yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,
14
heb ddal ar chwedlau Iuddewaidd a gorchymynion dynion, yn troi oddiwrth y gwirionedd.
15
Pob peth sydd bur i'r rhai pur, ond i'r rhai halogedig a di‐ffydd nid oes dim yn bur, eithr y mae eu meddwl a'u cydwybod hwy yn halogedig.
16
Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw, ond trwy eu gweithredoedd gwadant ef, gan fod yn ffiaidd, ac anufudd, ac yn anaddas i bob gweithred dda.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3