bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Titus 2
Titus 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Eithr llefara di y pethau a weddant i'r athrawiaeth iachus:
2
bod hynafgwyr yn sobr, yn ddifrifol, yn ddoeth, yn iach yn y ffydd, mewn cariad, mewn ymaros:
3
bod hynaf‐wragedd, yr un modd, yn eu hymddygiad fel y gwedda i rai sanctaidd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn dysgu yr hyn sydd dda,
4
fel yr hyfforddont y gwragedd ieuaingc i garu eu gwŷr, i garu eu plant,
5
i fod yn ddoeth, yn ddiwair, yn gwarchod gartref, yn dda, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr eu hunain, fel na chabler gair Duw.
6
Y gwŷr ieuengach, yr un modd, cynghora i fod yn ddoeth,
7
gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn esiampl i weithredoedd da, yn dy ddysgeidiaeth yn dangos anllygredigaeth, difrifoldeb,
8
ymadrodd iachus nas gellir ei gondemnio; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim iselwael i'w ddywedyd am danom.
9
Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i'w meistriaid eu hun; i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrth‐ddywedyd;
10
nid yn darn‐guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel yr addurnont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.
11
Canys ymddangosodd gras Duw yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn,
12
gan ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a chwantau bydol, y bo i ni fyw yn ddoeth, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol,
13
yn y byd sydd yn awr, gan ddysgwyl am y gobaith gwynfydedig ac am Ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Hiachawdwr Iesu Grist;
14
yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, fel y'n prynnai oddiwrth bob annghyfraith; ac y'n purai iddo ei hun yn bobl yn feddiant iddo ei hun, selog i weithredoedd da.
15
Y pethau hyn llefara a chynghora ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3