bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Titus 3
Titus 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Dwg ar gôf iddynt fod yn ddarostyngedig i lywodraethau, i awdurdodau, i fod yn ufudd, i fod yn barod i bob gweithred dda,
2
bod heb gablu neb, i fod yn anymrysongar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.
3
Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn crwydro, yn gwasanaethu amryw chwantau a phleserau, gan dreulio ein bywyd mewn drygioni a chenfigen, yn atgas, yn cashâu ein gilydd.
4
Eithr pan ymddangosodd caredigrwydd a chariad Duw ein Hiachawdwr at ddyn,
5
nid o weithredoedd mewn cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, ond yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad adenedigaeth ac adnewyddiad yr Yspryd Glân,
6
yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn oludog, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr,
7
fel, gwedi ein cyfiawnhâu trwy ei ras ef, y'n gwnelid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragywyddol.
8
Ffyddlawn yw y gair, ac am y pethau hyn mi a ewyllysiwn i ti lefaru yn groyw, fel y byddo i'r sawl sydd wedi credu i Dduw ofalu bod yn flaenllaw mewn gweithredoedd da: y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.
9
Ond gochel gwestiynau ffol, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonnau ynghylch y Gyfraith; canys y maent yn anfuddiol ac ofer.
10
Gwrthod ddyn a fyddo heretic wedi un ac ail rybudd,
11
gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyr‐droi ac yn pechu, ac yn hunan‐gondemniedig.
12
Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nicopolis; canys yno yr wyf wedi penderfynnu gauafu.
13
Gyda gofal anfon ym mlaen Zenas y Cyfreithiwr, ac Apollos ar eu taith, fel na byddo arnynt eisieu dim.
14
A dysged yr eiddom ni hefyd flaenori mewn gweithredoedd da er yr eisieu angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth.
15
Y mae yr holl rai sydd gyda mi yn dy gyfarch. Cyfarch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3