bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Revelation 21
Revelation 21
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
1
AC mi weleis nef newydd, a dayar newydd: cans y nef cyntaf, ar ddayar cyntaf eithont heybio, ac ni doedd dim moor mwy.
2
A’ myvi Ioan y weleis y dinas santaidd Caersalem newyð yn discin or nef oddiwrth Ddyw gwedy y thrwsio mal priodasverch ar vedr y gwr.
3
Ac mi glyweis lleis mawr allan o’r nef yn dwedyd Syna. Tabernacl Dyw gyda ’r dynion, ac ef yn dric gydac hwynt, ac hwy y vyddant bobyl yddo ef, a Dyw y hun, y bydd y Dyw hwy ynghyd ac ynthwy.
4
A Dyw y sych ymaith yr oll ðeigre oddiwrth y llygeid: ac ny bydd dim myrfolaeth mwy, na thristwch, na liefein, ac ny bydd dim poen mwy: cans y pethey cyntaf eithont heybiaw.
5
Ar vn y eisteddoedd ar yr eisteddle, y ddwad, Syna, yrwyf yn gwneythur pob peth oc newyð: ac ef ddwad wrthyfi Escrifena: can ys y maent y geiriey yma yn ffyddlawn ac yn gywir.
6
Ac ef y ddwad wrthyfi. E ðerfy mi wyf ac y dechreyad ar diwedd. Mi rrof yr vn y sydd sychedic, o ffynon dwr y bywyd yn rrydd.
7
Yr vn orchfyga, y geiff etifeðy yr holl pethey, ac mi vyða Ddyw yðo ef, ac ynte vyð mab y miney.
8
Ond yr ofnoc ac anghredadwy ar casddynion a’r llyaswyr, ar pyteinwyr ar cyfareddwyr ar delw‐addolwyr, a phob celwddoc y rran hwynt y vydd yny pwll, ysydd yn llosgi o dan a’ brymstan, yr hwn ydiwr eil myrfolaeth.
9
Ac vn or seith Angel, yrrein oeddent ar seith phiol ganthynt yn llawn or seith pla diwethaf y ddoyth attaf, ac ymddiddanoedd a mi, dan ddwedyd, Dabre: mi ddangosaf ytti y priodasverch, gwreic yr Oen.
10
Ac ef ym dugoeð i ymaith ynyr yspryd y ’lan ychwel vawr, ac y ðangosoeð y mi y dinas vawr Caersalem santeidd, yn discin alllan or nef oddiwrth Ddyw.
11
A’ gogoniant Dyw genthi, ae discleyrad hi oeð debic y vaen gwerthvawrysaf, megis maen Iaspar eglaer mal crystal.
12
Ac yrydoedd yddi vagwyr vawr ywchel a’ doyddec porth iddi, ac wrth y pyrth doyddec Angel, ac enwey yn escrivenedic, yrrein ydynt doyddec llwyth meybion yr Israel.
13
Ar barth y Dwyrein yr oedd tri phorth ac ar du y Gogledd tri phorth, ac ar tu y Dehey tri phorth, ac ar y tu Gorllewyn tri phorth.
14
A magwyr y dinas oedd a doyddec gryndwal yddi, ac yndynt hwy enwey y doyddec ebostolion yr Oen.
15
Ac yr ydoedd gan yr vn y ymddiddanoeð a mi, corsen aur y vessyr y dinas, ae phyrth hi, ae magwyr hi.
16
A’r dinas y osodwyd yn bedwar ochrog ae hud oedd cymeint ae lled, ac ef y vessyroedd y dinas ar corsen doyðec mil ystod: ac hud, ac lled ae hywchter sy yn ogymeint.
17
Ac ef y vesyroedd y magwyr hi, pedwar cuvyt a seith igein, wrth vessyr dun, yr hwn yw, mesur yr Angel.
18
Ac adeil y magwyr hi oedd o vaen Iaspar, a’r dinas oedd aur pur, yn debic y wydyr gloyw.
19
A’ gryndwal magwyr y dinas oedd gwedy y thrwsio a’ phob rryw vaen gwerthfawr: y gryndwal cynta oedd maen Iaspar: yr eil o Saphir, y trydydd oedd o vaen Chalcedon: y pedwerydd Smaragdus.
20
Y pymed Sardonix: y chweched Sardius: y seithfet Chrysolithus: yr wythfed Beryl: y nawfed Topazius: y decfed Chrysoprasus: yr vnfed a’r ddec Hiacinthus: y doyddecfed Amethystus.
21
Ar doyddec porth doyddec perl oeddent, a’ phob porth ’sydd o vn Perl, a’ heol y dinas’ sy aur pur, mal gwydyr disgleyr edd.
22
Ac ny weleis i vn demel yndi: cans yr Argl=Ddyw hollallvawc a’r Oen, yw y themel hi.
23
Ac nyd rreid yr dinas, wrth yr hayl, nar lleyad y ’oleyo yndi: cans gogoniant Dyw y goleyoeð hi, a’r Oen yw goley ni hi.
24
Ar bobyl cadwedic y rrodiant yny goley ni hi: a’ Brenhinoedd y ddayar y ddugant y gogoniant ac anrrydedd yddi hi.
25
Ac ny chayer y phyrth hi can trwyr dydd: ny vydd ddim nos yno.
26
A’ gogoniant, ac anrrydedd, y Cenedloedd a dducir yddi.
27
Ac nyd a y mewn yddi dim aflan, neu beth bynac y weythio casineb ney gelwddey, ond y rei y escrifenwyt mewn Llyfr bowyd yr Oen.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22