bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Corinthians 12
2 Corinthians 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
1
Y mae'n rhaid imi ymffrostio. Ni wna ddim lles, ond af ymlaen i sn am weledigaethau a datguddiadau a roddwyd i mi gan yr Arglwydd.
2
Gwn am ddyn yng Nghrist a gipiwyd, bedair blynedd ar ddeg yn l, i fyny i'r drydedd nef ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod.
3
Gwn i'r dyn hwnnw gael ei gipio i fyny i Baradwys ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod.
4
Ac fe glywodd draethu'r anhraethadwy, geiriau nad oes hawl gan neb dynol i'w llefaru.
5
Am hwnnw yr wyf yn ymffrostio; amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, ar wahn i'm gwendidau.
6
Ond os dewisaf ymffrostio, ni byddaf ffl, oherwydd dweud y gwir y byddaf. Ond ymatal a wnaf, rhag i neb feddwl mwy ohonof na'r hyn y mae'n ei weld ynof neu'n ei glywed gennyf.
7
A rhag i mi ymddyrchafu o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi, rhoddwyd draenen yn fy nghnawd, cennad oddi wrth Satan, i'm poeni, rhag imi ymddyrchafu.
8
Ynglu375?n hyn deisyfais ar yr Arglwydd dair gwaith ar iddo'i symud oddi wrthyf.
9
Ond dywedodd wrthyf, "Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth." Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf.
10
Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
11
Euthum yn ffl, ond chwi a'm gyrrodd i hyn. Oherwydd dylaswn i gael fy nghanmol gennych chwi. Nid wyf fi yn l mewn dim i'r archapostolion hyn, hyd yn oed os nad wyf fi'n ddim.
12
Cyflawnwyd arwyddion apostol yn eich plith gyda dyfalbarhad cyson, mewn arwyddion a rhyfeddodau a gwyrthiau nerthol.
13
Ym mha beth y bu'n waeth arnoch chwi na'r eglwysi eraill, ond yn hyn, na fm i yn faich arnoch chwi? Maddeuwch imi y camwedd hwn.
14
Dyma fi'n barod i ddod atoch y drydedd waith. Ac nid wyf am fod yn faich arnoch. Oherwydd chwi yr wyf yn eu ceisio, nid eich eiddo; nid y plant a ddylai ddarparu ar gyfer eu rhieni, ond y rhieni ar gyfer eu plant.
15
Fe wariaf fi fy eiddo yn llawen, ac fe'm gwariaf fy hunan i'r eithaf, dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi'n eich caru chwi'n fwy, a wyf fi i gael fy ngharu'n llai?
16
Ond, a chaniatu na fm i'n dreth arnoch, eto honnir imi fod yn ddigon cyfrwys i'ch dal trwy ddichell.
17
A fanteisiais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a anfonais atoch?
18
Deisyfais ar Titus fynd atoch, ac anfonais ein brawd gydag ef. A fanteisiodd Titus arnoch? Onid ymddwyn yn yr un ysbryd a wnaethom ni, ac onid dilyn yr un llwybrau?
19
A ydych yn tybio drwy'r amser mai ein hamddiffyn ein hunain i chwi yr ydym? Gerbron Duw yr ydym yn llefaru, yng Nghrist, a'r cwbl er adeiladaeth i chwi, fy nghyfeillion annwyl.
20
Oherwydd y mae arnaf ofn na chaf chwi, pan ddof, fel y dymunwn ichwi fod, ac na'm ceir innau chwaith fel y dymunech chwi imi fod. Yr wyf yn ofni y bydd cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, difenwi, clebran, ymchwyddo, terfysgu.
21
Yr wyf yn ofni rhag i'm Duw, pan ddof drachefn, fy narostwng o'ch blaen, a rhag imi orfod galaru dros lawer a oedd wedi pechu gynt, a heb edifarhau am yr amhurdeb a'r anfoesoldeb rhywiol a'r anlladrwydd a wnaethant.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13