bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Corinthians 3
2 Corinthians 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
A ydym unwaith eto yn dechrau ein cymeradwyo'n hunain? Neu a oes arnom angen llythyrau cymeradwyaeth atoch chwi neu oddi wrthych, fel sydd ar rai?
2
Chwi yw ein llythyr ni; y mae wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, a gall pob un ei ddeall a'i ddarllen.
3
Yr ydych yn dangos yn eglur mai llythyr Crist ydych, llythyr a gyflwynwyd gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw, nid ar lechau cerrig, ond ar lechau'r galon ddynol.
4
Dyna'r fath hyder sydd gennym trwy Grist tuag at Dduw.
5
Nid ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain; ni allwn briodoli dim i ni ein hunain; o Dduw y daw ein digonolrwydd ni,
6
oherwydd ef a'n gwnaeth ni'n ddigonol i fod yn weinidogion cyfamod newydd, nid cyfamod y gair ysgrifenedig, ond cyfamod yr Ysbryd. Oherwydd lladd y mae'r gair ysgrifenedig, ond rhoi bywyd y mae'r Ysbryd.
7
Gweini marwolaeth oedd swydd y Gyfraith a'i geiriau cerfiedig ar feini, ond gan gymaint gogoniant ei chyflwyno, ni allai'r Israeliaid syllu ar wyneb Moses o achos y gogoniant oedd arno, er mai rhywbeth i ddiflannu ydoedd.
8
Os felly, pa faint mwy fydd gogoniant gweinidogaeth yr Ysbryd?
9
Oherwydd os oedd gogoniant yn perthyn i weinidogaeth sy'n condemnio, rhagorach o lawer mewn gogoniant yw gweinidogaeth sy'n cyfiawnhau.
10
Yn wir, gwelir yma ogoniant a fu, wedi colli ei ogoniant yn llewyrch gogoniant rhagorach.
11
Oherwydd os mewn gogoniant y cyflwynwyd yr hyn oedd i ddiflannu, gymaint mwy yw gogoniant yr hyn sydd i aros!
12
Gan fod gennym ni felly'r fath obaith, yr ydym yn hy iawn,
13
ac nid yn debyg i Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb rhag ofn i'r Israeliaid syllu ar ddiwedd y gogoniant oedd i ddiflannu.
14
Ond pylwyd eu meddyliau. Hyd y dydd hwn, pan ddarllenant yr hen gyfamod, y mae'r un gorchudd yn aros heb ei godi, gan mai yng Nghrist yn unig y symudir ef.
15
Hyd y dydd hwn, pryd bynnag y darllenir Cyfraith Moses, y mae'r gorchudd yn gorwedd ar eu meddwl.
16
Ond pryd bynnag y mae rhywun yn troi at yr Arglwydd, fe dynnir ymaith y gorchudd.
17
Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid.
18
Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13