bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Corinthians 6
2 Corinthians 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
Yr ydym ni, fel cydweithwyr, yn apelio atoch i beidio gadael i'r gras a dderbyniasoch gan Dduw fynd yn ofer.
2
Oherwydd y mae Duw'n dweud: "Yn yr amser cymeradwy y gwrandewais arnat, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth." Dyma, yn awr, yr amser cymeradwy; dyma, yn awr, ddydd iachawdwriaeth.
3
Nid ydym yn gosod unrhyw faen tramgwydd ar lwybr neb, rhag cael bai ar ein gweinidogaeth.
4
Yn hytrach, ym mhob peth yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw: yn ein dyfalbarhad mawr; yn ein gorthrymderau, ein gofidiau, a'n cyfyngderau;
5
yn ein profiadau o'r chwip, o garchar ac o derfysg; yn ein llafur, ein diffyg cwsg a'n newyn;
6
yn ein purdeb, ein gwybodaeth, ein goddefgarwch a'n caredigrwydd; yn yr Ysbryd Gln ac yn ein cariad diragrith;
7
yng ngair y gwirionedd ac yn nerth Duw, trwy ddefnyddio arfau cyfiawnder yn y llaw dde a'r llaw chwith,
8
doed parch, doed amarch, doed anghlod, doed clod. Twyllwyr y'n gelwir, a ninnau'n eirwir;
9
rhai dinod, a ninnau'n enwog; yn marw, ac eto byw ydym; dan gosb, ond heb gael ein lladd;
10
dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth.
11
Yr ydym wedi llefaru'n gwbl rydd wrthych, Gorinthiaid; y mae'n calon yn llydan agored tuag atoch.
12
Nid nyni sy'n cyfyngu arnoch, ond eich teimladau eich hunain.
13
I dalu'n l yr wyf yn siarad wrthych fel wrth blant agorwch chwithau eich calonnau yn llydan.
14
Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch?
15
Pa gytgord sydd rhwng Crist a Belial? Neu pa gyfran sydd i gredadun gydag anghredadun?
16
Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: "Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau.
17
Am hynny, dewch allan o'u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch chyffwrdd dim byd aflan. Ac fe'ch derbyniaf chwi,
18
a byddaf i chwi yn dad, a byddwch chwi'n feibion a merched i mi, medd yr Arglwydd, yr Hollalluog."
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13