bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Daniel 1
Daniel 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
1
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni.
2
A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tu375? Dduw, ac aeth yntau hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw.
3
Yna gorchmynnodd y brenin i Aspenas, ei brif swyddog, ddewis, o blith teulu brenhinol Israel a'r penaethiaid,
4
rai bechgyn golygus heb unrhyw nam corfforol arnynt, yn hyddysg ym mhob gwyddor, yn ddeallus a gwybodus, ac yn gymwys i wasanaethu llys y brenin, ac iddo'u trwytho yn lln ac iaith y Caldeaid.
5
Trefnodd y brenin iddynt dderbyn bwyd a gwin bob dydd o'i fwrdd ei hun, a chael eu hyfforddi am dair blynedd cyn mynd yn weision i'r llys.
6
Yn eu mysg yr oedd Jwdeaid, o'r enwau Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia;
7
ond galwodd y prif swyddog Daniel yn Beltesassar, Hananeia yn Sadrach, Misael yn Mesach, ac Asareia yn Abednego.
8
Penderfynodd Daniel beidio 'i halogi ei hun bwyd a gwin o fwrdd y brenin, ac erfyniodd ar y prif swyddog i'w arbed rhag cael ei halogi.
9
Parodd Duw i'r prif swyddog ymddwyn yn ffafriol a charedig at Daniel,
10
ond dywedodd y prif swyddog wrth Daniel, "Rwy'n ofni f'arglwydd frenin; ef sydd wedi pennu'ch bwyd a'ch diod, a phe sylwai eich bod yn edrych yn fwy gwelw na'ch cyfeillion byddech yn peryglu fy mywyd."
11
Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia,
12
"Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a du373?r i'w yfed,
13
ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna 'th weision fel y gweli'n dda."
14
Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod.
15
Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin.
16
Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt.
17
Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd.
18
Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar.
19
Ar l i'r brenin siarad hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin.
20
A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas.
21
A bu Daniel yno hyd flwyddyn gyntaf y Brenin Cyrus.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12