bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Daniel 6
Daniel 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 7 →
1
Penderfynodd Dareius benodi cant ac ugain o lywodraethwyr, un i fod dros bob rhan o'r deyrnas,
2
a throstynt hwy dri rhaglaw, gan gynnwys Daniel; ac iddynt hwy yr oedd y llywodraethwyr yn gyfrifol, i warchod buddiannau'r brenin.
3
Yr oedd Daniel yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am fod ganddo ddawn arbennig, a bwriadai'r brenin ei osod dros yr holl deyrnas.
4
Yna chwiliodd y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am ryw achos ynglu375?n 'r deyrnas y gallent ei ddwyn yn erbyn Daniel, ond ni fedrent gael achos na bai ynddo; am ei fod mor ddidwyll, ni chawsant unrhyw amryfusedd na bai ynddo.
5
Yna dywedodd y dynion hyn, "Ni fedrwn gael unrhyw achos yn erbyn y Daniel hwn os na chawn rywbeth ynglu375?n chyfraith ei Dduw."
6
Felly aeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "O Frenin Dareius, bydd fyw byth!
7
Y mae holl swyddogion y deyrnas, yn benaethiaid a llywodraethwyr, yn gynghorwyr a rhaglawiaid, yn unfryd 'i gilydd y dylai'r brenin wneud deddf a gorchymyn pendant fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn ymbil ar unrhyw dduw neu ddyn, ar wahn i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod.
8
Yn awr, O frenin, cadarnha'r gorchymyn ac arwydda'r ddogfen, fel na chaiff ei newid, yn l cyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
9
Felly arwyddodd y Brenin Dareius y ddogfen a'r gorchymyn.
10
Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w du375?. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gweddo a thalu diolch i'w Dduw, yn l ei arfer.
11
Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw.
12
Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: "Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahn i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?" Atebodd y brenin, "Dyna'r gorchymyn, yn unol chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
13
Dywedasant hwythau wrth y brenin, "Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddo deirgwaith y dydd."
14
Pan glywodd y brenin hyn yr oedd yn drist iawn, a cheisiodd ffordd i achub Daniel, ac ymdrechu hyd fachlud haul i'w arbed.
15
Ond daeth y rhain gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "Gwyddost, O frenin, fod pob gorchymyn a deddf o eiddo'r brenin yn ddigyfnewid yn l cyfraith y Mediaid a'r Persiaid."
16
Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, "Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub."
17
Yna daethant maen, a'i osod ar geg y ffau, a seliodd y brenin ef 'i sl ei hun a sl ei bendefigion, rhag bod unrhyw newid ar y dyfarniad yn erbyn Daniel.
18
Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd merched ato, ac ni allai gysgu.
19
Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod.
20
Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, "Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?"
21
Atebodd Daniel y brenin, "O frenin, bydd fyw byth!
22
Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod fel na wnaethant niwed i mi, am fy mod yn ddieuog yn ei olwg; ni wneuthum niwed i tithau chwaith, O frenin."
23
Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.
24
Ac ar orchymyn y brenin, daethant 'r rhai oedd wedi cyhuddo Daniel, a'u taflu i ffau'r llewod, hwy a'u plant a'u gwragedd, a chyn iddynt gyrraedd gwaelod y ffau yr oedd y llewod wedi eu llarpio ac wedi malu eu hesgyrn yn chwilfriw.
25
Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, o bob cenedl ac iaith trwy'r byd i gyd, "Heddwch fo i chwi!
26
Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel. Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol; ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.
27
Y mae'n achub ac yn gwaredu, yn gwneud arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; ef a achubodd Daniel o afael y llewod."
28
A llwyddodd y Daniel hwn yn ystod teyrnasiad Dareius a theyrnasiad Cyrus y Persiad.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12