bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Daniel 4
Daniel 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 5 →
1
"Y Brenin Nebuchadnesar at yr holl bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd trwy'r byd i gyd. Bydded heddwch i chwi!
2
Dewisais ddadlennu'r arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y Duw Goruchaf mi.
3
Mor fawr yw ei arwyddion ef, mor nerthol ei ryfeddodau! Y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a'i arglwyddiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
4
"Yr oeddwn i, Nebuchadnesar, yn mwynhau bywyd braf yn fy nhu375? a moethusrwydd yn fy llys.
5
Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf.
6
Gorchmynnais ddwyn ataf holl ddoethion Babilon i ddehongli fy mreuddwyd.
7
Pan ddaeth y dewiniaid, y swynwyr, y Caldeaid, a'r hudolwyr, adroddais y freuddwyd wrthynt, ond ni fedrent ei dehongli.
8
Yna daeth un arall ataf, sef Daniel, a elwir Beltesassar ar l fy nuw i, dyn yn llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd; ac adroddais fy mreuddwyd wrtho:
9
'Beltesassar fy mhrif ddewin, gwn fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ac nad oes dirgelwch sy'n rhy anodd i ti; gwrando ar y freuddwyd a welais, a mynega'i dehongliad.'
10
Dyma fy ngweledigaethau ar fy ngwely: Tra oeddwn yn edrych, gwelais goeden uchel iawn yng nghanol y ddaear.
11
Tyfodd y goeden yn fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion; yr oedd i'w gweld o bellteroedd byd.
12
Yr oedd ei dail yn brydferth a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth byw. Oddi tani ci anifeiliaid loches, a thrigai adar yr awyr yn ei changhennau, a chi pob creadur byw fwyd ohoni.
13
"Tra oeddwn ar fy ngwely, yn edrych ar fy ngweledigaethau, gwelwn wyliwr sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd,
14
ac yn gweiddi'n uchel, 'Torrwch y goeden, llifiwch ei changhennau; tynnwch ei dail a gwasgarwch ei ffrwyth. Gwnewch i'r anifeiliaid ffoi o'i chysgod a'r adar o'i changhennau.
15
Ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes. Bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid sy'n pori'r ddaear.
16
Newidir y galon ddynol sydd ganddo a rhoir calon anifail iddo yn ei lle. Bydd hyn dros saith cyfnod.
17
Dedfryd y gwylwyr yw hyn, a dyma ddatganiad y rhai sanctaidd, er mwyn i bawb byw wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn, ac yn gosod yr isaf yn ben arni.'
18
"Dyma'r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar. Dywed tithau, Beltesassar, beth yw'r dehongliad, oherwydd ni fedr yr un o ddoethion fy nheyrnas ei dehongli imi, ond medri di, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot."
19
Aeth Daniel, a enwyd Beltesassar, yn fud am funud, a'i feddwl mewn penbleth. Dywedodd y brenin, "Paid gadael i'r freuddwyd a'r dehongliad dy boeni, Beltesassar." Atebodd yntau, "Boed hon yn freuddwyd i'th gaseion, a'i dehongliad i'th elynion.
20
Y goeden a welaist yn tyfu'n fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion ac i'w gweld o bellteroedd byd,
21
a'i dail yn brydferth, a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth, a lloches i anifeiliaid oddi tani, a chartref i adar yr awyr yn ei changhennau
22
ti, O frenin, yw'r goeden honno. Yr wyt wedi tyfu'n fawr a chryf, a'th fawredd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd i'r entrychion, a'th frenhiniaeth yn ymestyn i bellteroedd byd.
23
Fe welaist hefyd, O frenin, wyliwr sanctaidd yn dod i lawr ac yn dweud, 'Torrwch y goeden a difethwch hi, ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes; bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid, hyd nes i saith cyfnod fynd heibio.'
24
Dyma'r dehongliad, O frenin: Datganiad y Goruchaf ynglu375?n 'm harglwydd frenin yw hwn.
25
Cei dy yrru o u373?ydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid; byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd gwlith y nefoedd yn dy wlychu. Bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.
26
Am y gorchymyn i adael boncyff y pren a'i wraidd, bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog wedi iti ddeall mai'r nefoedd sy'n teyrnasu.
27
Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd 'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch."
28
Digwyddodd hyn i gyd i'r Brenin Nebuchadnesar.
29
Ym mhen deuddeng mis, yr oedd y brenin yn cerdded ar do ei balas ym Mabilon,
30
ac meddai, "Onid hon yw Babilon fawr, a godais trwy rym fy nerth yn gartref i'r brenin ac er clod i'm mawrhydi?"
31
Cyn i'r brenin orffen siarad, daeth llais o'r nefoedd, "Dyma neges i ti, O Frenin Nebuchadnesar: Cymerwyd y frenhiniaeth oddi arnat.
32
Cei dy yrru o u373?ydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid. Byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn."
33
Digwyddodd hyn ar unwaith i Nebuchadnesar. Cafodd ei yrru o u373?ydd pobl; yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, ei wallt yn hir fel plu eryr, a'i ewinedd yn hir fel crafangau aderyn.
34
"Ymhen amser, codais i, Neb-uchadnesar, fy llygaid i'r nefoedd, ac adferwyd fy synnwyr. Yna bendithiais y Goruchaf, a moli a mawrhau'r un sy'n byw yn dragywydd. Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
35
Nid yw neb o drigolion y ddaear yn cyfrif dim; y mae'n gwneud fel y mynno llu'r nefoedd ac thrigolion y ddaear. Ni fedr neb ei atal, a gofyn iddo, 'Beth wyt yn ei wneud?'
36
Y pryd hwnnw adferwyd fy synnwyr a dychwelodd fy mawrhydi a'm clod, er gogoniant fy mrenhiniaeth. Daeth fy nghynghorwyr a'm tywysogion ataf. Cadarnhawyd fi yn fy nheyrnas, a rhoddwyd llawer mwy o rym i mi.
37
Ac yn awr yr wyf fi, Nebuchadnesar, yn moli, yn mawrhau ac yn clodfori Brenin y Nefoedd, sydd 'i weithredoedd yn gywir a'i ffyrdd yn gyfiawn, ac yn gallu darostwng y balch."
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12