bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Genesis 4
Genesis 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 5 →
1
Cafodd Adda gyfathrach 'i wraig Efa, a beichiogodd ac esgor ar Cain, a dywedodd, "Dygais u373?r trwy yr ARGLWYDD."
2
Esgorodd wedyn ar ei frawd Abel. Bugail defaid oedd Abel, a Cain yn trin y tir.
3
Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD,
4
a daeth Abel yntau blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster.
5
Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist.
6
Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, "Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist?
7
Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu."
8
A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, "Gad inni fynd i'r maes." A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd.
9
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, "Ble mae dy frawd Abel?" Meddai yntau, "Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?"
10
A dywedodd Duw, "Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd.
11
Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law.
12
Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear."
13
Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, "Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn.
14
Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th u373?ydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd."
15
Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith." A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddi ar ei draws ei ladd.
16
Yna aeth Cain ymaith o u373?ydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.
17
Cafodd Cain gyfathrach 'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar l ei fab, Enoch.
18
Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech.
19
Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail.
20
Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail.
21
Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib.
22
Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain.
23
A dywedodd Lamech wrth ei wragedd: "Ada a Sila, clywch fy llais; chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; lleddais u373?r am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.
24
Os dielir am Cain seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith."
25
Cafodd Adda gyfathrach 'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, "Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd."
26
I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50