bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Genesis 49
Genesis 49
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 50 →
1
Yna galwodd Jacob ar ei feibion, ac meddai, "Dewch ynghyd, imi ddweud wrthych beth fydd eich hynt yn y dyddiau sydd i ddod.
2
"Dewch yma a gwrandewch, feibion Jacob, gwrandewch ar Israel eich tad.
3
"Reuben, ti yw fy nghyntafanedig, fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth, yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu,
4
yn aflonydd fel du373?r; ni ragori mwyach, oherwydd dringaist i wely dy dad, dringaist i'm gorweddfa a'i halogi.
5
"Y mae Simeon a Lefi yn frodyr; arfau creulon yw eu ceibiau.
6
Na fydded imi fynd i'w cyngor, na pherthyn i'w cwmni; oherwydd yn eu llid lladdasant wu375?r, a thorri llinynnau gar yr ychen fel y mynnent.
7
Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw, a'u dicter am ei fod mor greulon; rhannaf hwy yn Jacob a'u gwasgaru yn Israel.
8
"Jwda, fe'th ganmolir gan dy frodyr; bydd dy law ar war dy elynion, a meibion dy dad yn ymgrymu iti.
9
Jwda, cenau llew ydwyt, yn codi oddi ar yr ysglyfaeth, fy mab; yn plygu a chrymu fel llew, ac fel llewes; pwy a'i cyfyd?
10
Ni fydd y deyrnwialen yn ymadael Jwda, na ffon y deddfwr oddi rhwng ei draed, hyd oni ddaw i Seilo; iddo ef y bydd ufudd-dod y bobloedd.
11
Bydd yn rhwymo'i ebol wrth y winwydden, a'r llwdn asyn wrth y winwydden br; bydd yn golchi ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed grawnwin.
12
Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin, a'i ddannedd yn wynnach na llaeth.
13
"Bydd Sabulon yn byw ar lan y mr; bydd yn borthladd llongau, a bydd ei derfyn hyd Sidon.
14
"Y mae Issachar yn asyn cryf, yn gorweddian rhwng y corlannau;
15
pan fydd yn gweld lle da i orffwyso, ac mor hyfryd yw'r tir, fe blyga'i ysgwydd i'r baich, a dod yn gaethwas dan orfod.
16
"Bydd Dan yn barnu ei bobl fel un o lwythau Israel.
17
Bydd Dan yn sarff ar y ffordd, ac yn neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau'r march nes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.
18
"Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!
19
"Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid, ond bydd ef yn eu hymlid hwy.
20
"Aser, bras fydd ei fwyd, ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.
21
"Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog, yn lledu brigau teg.
22
"Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, a'i cheinciau'n dringo dros y mur.
23
Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato, yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;
24
ond parhaodd ei fwa yn gadarn, cryfhawyd ei freichiau trwy ddwylo Un Cadarn Jacob, trwy enw'r Bugail, Craig Israel;
25
trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu, trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithio bendithion y nefoedd uchod, bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod, bendithion y bronnau a'r groth.
26
Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion y mynyddoedd tragwyddol, ac ar haelioni'r bryniau oesol; byddant hwy ar ben Joseff, ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.
27
"Y mae Benjamin yn flaidd yn llarpio, yn bwyta ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu'r ysbail yn yr hwyr."
28
Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith.
29
Yna rhoes Jacob orchymyn iddynt a dweud, "Cesglir fi at fy mhobl. Claddwch fi gyda'm hynafiaid yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad,
30
yr ogof sydd ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yng ngwlad Canaan. Prynodd Abraham hi gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.
31
Yno y claddwyd Abraham a'i wraig Sara; yno y claddwyd Isaac a'i wraig Rebeca, ac yno y cleddais i Lea.
32
Cafwyd hawl ar y maes a'r ogof sydd ynddo gan yr Hethiaid."
33
Wedi i Jacob orffen rhoi ei orchymyn i'w feibion, tynnodd ei draed ato i'r gwely, bu farw, a chasglwyd ef at ei bobl.
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 50 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50