bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Genesis 5
Genesis 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 6 →
1
Dyma lyfr cenedlaethau Adda. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw.
2
Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn.
3
Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth.
4
Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5
Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.
6
Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.
7
Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
8
Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
9
Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.
10
Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
11
Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
12
Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel.
13
Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
14
Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw.
15
Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered.
16
Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
17
Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
18
Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch.
19
Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
20
Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.
21
Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela.
22
Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
23
Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd.
24
Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef.
25
Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech.
26
Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
27
Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.
28
Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab;
29
a galwodd ef yn Noa, a dweud, "Fe ddaw hwn chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD."
30
Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
31
Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw.
32
Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50