bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Hebrews 3
Hebrews 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu,
2
a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl du375? Dduw.
3
Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint bod adeiladydd tu375? yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tu375?.
4
Y mae pob tu375? yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth.
5
Bu Moses yn ffyddlon yn holl du375? Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru;
6
ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd rheolaeth ar du375? Dduw. A ni yw ei du375? ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo.
7
Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Gln yn dweud: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,
8
peidiwch chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel, yn nydd y profi yn yr anialwch,
9
lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd.
10
Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dweud, 'Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.'
11
Felly tyngais yn fy nig, 'Ni chnt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.'"
12
Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw.
13
Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n "heddiw", rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.
14
Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf.
15
Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel."
16
Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses?
17
Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch?
18
Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd?
19
Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13