bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Hebrews 4
Hebrews 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Gochelwn, felly, rhag i neb ohonoch fod wedi eich cau allan megis, a'r addewid yn aros y cawn ddod i mewn i'w orffwysfa ef.
2
Oherwydd fe gyhoeddwyd y newyddion da, yn wir, i ni fel iddynt hwythau, ond ni bu'r gair a glywsant o unrhyw fudd iddynt hwy, am nad oeddent wedi eu huno mewn ffydd 'r sawl oedd wedi gwrando ar y gair.
3
Oblegid nyni, y rhai sydd wedi credu, sydd yn mynd i mewn i'r orffwysfa, yn unol 'r hyn a ddywedodd: "Felly tyngais yn fy nig, 'Ni chnt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.'" Ac eto yr oedd ei waith wedi ei orffen er seiliad y byd.
4
Oherwydd y mae gair yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn: "A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith."
5
Felly hefyd yma: "Ni chnt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa."
6
Felly, gan ei bod yn sicr y bydd rhai yn cael dod i mewn iddi, a chan fod y rhai y cyhoeddwyd y newyddion da iddynt gynt heb ddod i mewn oherwydd anufudd-dod,
7
y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef "Heddiw", gan lefaru trwy Ddafydd ar l cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o'r blaen: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch chaledu'ch calonnau."
8
Oherwydd petai Josua wedi rhoi gorffwys iddynt, ni byddai Duw wedi sn ar l hynny am ddiwrnod arall.
9
Felly, y mae gorffwysfa'r Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw.
10
Oherwydd mae pwy bynnag a ddaeth i mewn i'w orffwysfa ef yn gorffwys oddi wrth ei waith, fel y gorffwysodd Duw oddi wrth ei waith yntau.
11
Gadewch inni ymdrechu, felly, i fynd i mewn i'r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio o achos yr un math o anufudd-dod.
12
Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.
13
Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.
14
Gan fod gennym, felly, archoffeiriad mawr sydd wedi mynd drwy'r nefoedd, sef Iesu, Mab Duw, gadewch inni lynu wrth ein cyffes.
15
Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef 'n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd ni, ac eto heb bechod.
16
Felly, gadewch inni nesu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13