bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Hebrews 6
Hebrews 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
Am hynny, gadewch inni ymadael 'r athrawiaeth elfennol am Grist, a mynd ymlaen at y tyfiant llawn. Ni ddylem eilwaith osod y sylfaen, sef edifeirwch am weithredoedd meirwon, a ffydd yn Nuw,
2
dysgeidiaeth am olchiadau, arddodiad dwylo, atgyfodiad y meirw, a'r Farn dragwyddol.
3
A mynd ymlaen a wnawn, os caniat Duw.
4
Oherwydd y rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofodd o'r rhodd nefol, ac a fu'n gyfrannog o'r Ysbryd Gln,
5
ac a brofodd ddaioni gair Duw a nerthoedd yr oes i ddod
6
os yw'r rhain wedyn wedi syrthio ymaith, y mae'n amhosibl eu hadfer i edifeirwch, gan eu bod i'w niwed eu hunain yn croeshoelio Mab Duw, ac yn ei wneud yn waradwydd.
7
Oherwydd y mae'r ddaear, sy'n llyncu'r glaw sy'n disgyn arni'n fynych, ac sy'n dwyn cnydau addas i'r rhai y mae'n cael ei thrin er eu mwyn, yn derbyn ei chyfran o fendith Duw.
8
Ond os yw'n dwyn drain ac ysgall, y mae'n ddiwerth ac yn agos i felltith, a'i diwedd fydd ei llosgi.
9
Er ein bod yn siarad fel hyn, yr ydym yn argyhoeddedig, gyfeillion annwyl, fod pethau gwell yn eich aros chwi, pethau sy'n perthyn i iachawdwriaeth.
10
Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini.
11
Ond ein dyhead yw i bob un ohonoch ddangos yr un eiddgarwch ynglu375?n sicrwydd eich gobaith hyd y diwedd.
12
Yr ydym am ichwi beidio bod yn ddiog, ond yn efelychwyr y rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu'r addewidion.
13
Pan roddodd Duw, felly, addewid i Abraham, gan nad oedd ganddo neb mwy i dyngu wrtho, fe dyngodd wrtho'i hun
14
gan ddweud: "Yn wir, bendithiaf di, ac yn ddiau, amlhaf di."
15
Ac felly, wedi disgwyl yn amyneddgar, fe gafodd yr hyn a addawyd.
16
Oherwydd wrth un mwy y bydd pobl yn tyngu; ac y mae llw yn rhoi gwarant sydd yn derfyn ar bob dadl rhyngddynt.
17
Felly, pan ewyllysiodd Duw brofi'n llwyrach i etifeddion yr addewid mor ddigyfnewid yw ei fwriad, fe roddodd warant drwy lw,
18
er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen.
19
Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen,
20
lle y mae Iesu wedi mynd, yn rhagredegydd ar ein rhan, wedi ei wneud yn archoffeiriad am byth, yn l urdd Melchisedec.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13