bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jonah 1
Jonah 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Daeth gair yr ARGLWYDD at Jona fab Amittai, a dweud,
2
"Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara yn ei herbyn; oherwydd daeth ei drygioni i'm sylw."
3
Ond cododd Jona i ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD i Tarsis. Aeth i lawr i Jopa a chael llong yn mynd i Tarsis, ac wedi talu ei dreuliau aeth arni i fynd gyda hwy i Tarsis oddi wrth yr ARGLWYDD.
4
Ond cododd yr ARGLWYDD wynt nerthol ar y mr, a bu storm mor arw ar y mr nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio.
5
Yr oedd y morwyr wedi dychryn, a phob un yn gweiddi ar ei dduw, a thaflasant y gr oedd ar y llong i'r mr i'w hysgafnu. Ond yr oedd Jona wedi mynd i grombil y llong i orwedd, ac wedi cysgu.
6
A daeth capten y llong ato a gofyn, "Beth yw dy feddwl, yn cysgu? Cod, a galw ar dy dduw; efallai y meddylia'r duw amdanom, rhag ein difetha."
7
Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, "O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod." Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona.
8
Yna dywedasant wrtho, "Dywed i ni, beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?"
9
Atebodd yntau hwy, "Hebrwr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y mr a'r sychdir."
10
A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, "Beth yw hyn a wnaethost?" Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt.
11
Yna dywedasant, "Beth a wnawn thi, er mwyn i'r mr ostegu inni, oherwydd y mae'n gwaethygu o hyd."
12
Atebodd yntau, "Cymerwch fi a'm taflu i'r mr, ac yna fe dawela'r mr ichwi; oherwydd gwn mai o'm hachos i y daeth y storm arw hon arnoch."
13
Rhwyfodd y dynion yn galed i gyrraedd tir, ond ni allent, gan fod y mr yn gwaethygu o hyd yn eu herbyn.
14
Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, paid gadael inni gael ein difetha am fywyd y dyn hwn, na rhoi gwaed dieuog yn ein herbyn; ti yw'r ARGLWYDD, ac yr wyt yn gwneud fel y gweli'n dda."
15
Yna cymerasant Jona a'i daflu i'r mr, a llonyddodd y mr o'i gynnwrf.
16
Ac ofnodd y gwu375?r yr ARGLWYDD yn fawr iawn, gan offrymu aberth i'r ARGLWYDD a gwneud addunedau.
17
A threfnodd yr ARGLWYDD i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4