bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jonah 4
Jonah 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig.
2
Yna gweddodd ar yr ARGLWYDD a dweud, "Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed.
3
Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw."
4
Atebodd Duw, "A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?"
5
Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas.
6
A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn.
7
Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino.
8
A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, "Gwell gennyf farw na byw."
9
A gofynnodd Duw i Jona, "A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?" Atebodd yntau, "Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau."
10
Dywedodd Duw, "Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu.
11
Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb sn am lu o anifeiliaid?"
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4