bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jonah 2
Jonah 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Yna gweddodd Jona ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn a dweud,
2
"Gelwais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi; o ddyfnder Sheol y gwaeddais, a chlywaist fy llais.
3
Teflaist fi i'r dyfnder, i eigion y mr, a'r llanw yn f'amgylchu; yr oedd dy holl donnau a'th lifeiriant yn mynd dros fy mhen.
4
Yna dywedais, 'Fe'm gyrrwyd allan o'th olwg di; sut y caf edrych eto ar dy deml sanctaidd?'
5
Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas; clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd;
6
euthum i lawr i'r wlad y caeodd ei bolltau arnaf am byth. Eto, dygaist fy mywyd i fyny o'r pwll, O ARGLWYDD fy Nuw.
7
Pan deimlais fy hun yn llewygu, cofiais am yr ARGLWYDD, a daeth fy ngweddi atat i'th deml sanctaidd.
8
Y mae'r rhai sy'n addoli eilunod gwag yn gwadu eu teyrngarwch.
9
Ond aberthaf i ti chn o ddiolch. Talaf yr hyn a addunedais; i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu."
10
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, a chwydodd yntau Jona ar y lan.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4