bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Lamentations 2
Lamentations 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
o'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwydd ar ferch Seion yn ei ddig! Bwriodd ogoniant Israel o'r nefoedd i'r llawr, ac ni chofiodd am ei droedfainc yn nydd ei ddicter.
2
Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbed holl drigfannau Jacob; yn ei ddigofaint dinistriodd amddiffynfeydd merch Jwda; taflodd i lawr a difwynodd y deyrnas a'i phenaethiaid.
3
Yn angerdd ei ddig torrodd gyrn Israel i gyd; tynnodd yn l ei ddeheulaw wrth i'r gelyn ymosod; llosgodd yn Jacob fel fflam dn yn difa popeth o'i hamgylch.
4
Fel gelyn paratdd ei fwa, safodd 'i ddeheulaw'n barod, ac fel gwrthwynebwr fe laddodd y cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad; tywalltodd ei lid fel tn ar babell merch Seion.
5
Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elyn ac wedi difetha Israel; difethodd ei holl balasau, a dinistrio'i hamddiffynfeydd; gwnaeth i alar a gofid gynyddu i ferch Jwda.
6
Chwalodd ei babell fel chwalu gardd, a dinistrio'r man cyfarfod; gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofio ei gu373?yl a'i Saboth; yn angerdd ei lid dirmygodd frenin ac offeiriad.
7
Gwrthododd yr Arglwydd ei allor, a ffieiddio'i gysegr; rhoddodd furiau ei phalasau yn llaw'r gelyn; gwaeddasant hwythau yn nhu375?'r ARGLWYDD fel ar ddydd gu373?yl.
8
Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynol o ddinistrio mur merch Seion; gosododd linyn mesur arni, ac ni thynnodd yn l ei law rhag difetha. Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru; aethant i gyd yn wan.
9
Suddodd ei phyrth i'r ddaear; torrodd a maluriodd ef ei barrau. Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd, ac nid oes cyfraith mwyach; ni chaiff ei phroffwydi weledigaeth gan yr ARGLWYDD.
10
Y mae henuriaid merch Seion yn eistedd yn fud ar y ddaear, wedi taflu llwch ar eu pennau a gwisgo sachliain; y mae merched ifainc Jerwsalem wedi crymu eu pennau i'r llawr.
11
Dallwyd fy llygaid gan ddagrau; y mae f'ymysgaroedd mewn poen. Yr wyf yn tywallt fy nghalon allan o achos dinistr merch fy mhobl, ac am fod plant a babanod yn llewygu yn strydoedd y ddinas.
12
Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau, "Ple cawn ni rawn a gwin?" wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedig yn strydoedd y ddinas, ac wrth iddynt ymladd am eu bywyd ym mynwes eu mamau.
13
Beth allaf ei ddweud o'th blaid, a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem? I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur, y forwyn, ferch Seion? Y mae dy ddolur mor ddwfn 'r mr, pwy a all dy iachu?
14
Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwyddog a thwyllodrus; ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd er mwyn adfer dy lwyddiant; yr oedd yr oraclau a roddasant iti yn gelwyddog a chamarweiniol.
15
Y mae pob un sy'n mynd heibio yn curo'i ddwylo o'th achos; y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau ar ferch Jerwsalem: "Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch, ac yn llawenydd yr holl ddaear?"
16
Y mae dy holl elynion yn gweiddi'n groch yn dy erbyn, yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd; dywedant, "Yr ydym wedi ei difetha; dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano; yr ydym wedi cael ei weld!"
17
Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd; cyflawnodd ei fwriad, a drefnodd ers amser maith, a dinistriodd yn ddiarbed; gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos, a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.
18
Gwaedda ar yr Arglwydd, O fur merch Seion; tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos; paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.
19
Cod, a gwaedda liw nos, ar gychwyn pob gwyliadwriaeth; tywallt dy galon fel du373?r o flaen yr Arglwydd; estyn dy ddwylo tuag ato am fywyd dy blant, sy'n llewygu gan newyn ym mhen pob stryd.
20
Edrych, ARGLWYDD, a gwl. I bwy y gwnaethost hyn? A yw'r gwragedd i fwyta'u hepil, y plant y maent yn eu hanwesu? A leddir offeiriad a phroffwyd yng nghysegr yr Arglwydd?
21
Gorwedd yr ifanc a'r hen yn y llwch ar y strydoedd; y mae fy merched a'm dynion ifainc wedi syrthio trwy'r cleddyf; lleddaist hwy yn nydd dy ddicter, a'u difa'n ddiarbed.
22
Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad, fel ar ddydd gu373?yl; nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbed yn nydd dicter yr ARGLWYDD; lladdodd fy ngelyn bob un a anwesais ac a fegais.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5