bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Lamentations 5
Lamentations 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni; edrych a gwl ein gwarth.
2
Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.
3
Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau, a'n mamau fel gweddwon.
4
Y mae'n rhaid inni dalu am y du373?r a yfwn, a phrynu'r coed a gawn.
5
Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir; yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.
6
Gwnaethom gytundeb 'r Aifft, ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.
7
Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach; ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.
8
Caethweision sy'n llywodraethu arnom, ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.
9
Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd, oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.
10
Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.
11
Treisir gwragedd yn Seion, a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.
12
Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo, ac ni pherchir yr henuriaid.
13
Y mae'r dynion ifainc yn llafurio 'r maen melin, a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.
14
Gadawodd yr henuriaid y porth, a'r gwu375?r ifainc eu cerddoriaeth.
15
Diflannodd llawenydd o'n calonnau, a throdd ein dawnsio yn alar.
16
Syrthiodd y goron oddi ar ein pen; gwae ni, oherwydd pechasom.
17
Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol, ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:
18
am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch, a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.
19
Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth, ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.
20
Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd, ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?
21
ARGLWYDD, tyn ni'n l atat, ac fe ddychwelwn; adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,
22
os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr, ac yn ddig iawn wrthym.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5