bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Lamentations 4
Lamentations 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
O fel y pylodd yr aur, ac y newidiodd yr aur coeth! Gwasgarwyd meini'r cysegr ym mhen pob stryd.
2
Plant gwerthfawr Seion, a oedd yn werth eu pwysau mewn aur, yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd, gwaith dwylo crochenydd!
3
Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r fron i roi sugn i'w hepil, ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon, fel estrys yn yr anialwch.
4
Y mae tafod y plentyn sugno yn glynu wrth ei daflod o syched; y mae'r plant yn cardota bara, heb neb yn ei roi iddynt.
5
Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithion yn ddiymgeledd yn y strydoedd, a'r rhai a fagwyd mewn ysgarlad yn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.
6
Y mae trosedd merch fy mhobl yn fwy na phechod Sodom, a ddymchwelwyd yn ddisymwth heb i neb godi llaw yn ei herbyn.
7
Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira, yn wynnach na llaeth; yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel, a'u pryd fel saffir.
8
Ond aeth eu hwynepryd yn dduach na pharddu, ac nid oes neb yn eu hadnabod yn y strydoedd; crebachodd eu croen am eu hesgyrn, a sychodd fel pren.
9
Yr oedd y rhai a laddwyd 'r cleddyf yn fwy ffodus na'r rhai oedd yn marw o newyn, oherwydd yr oeddent hwy yn dihoeni, wedi eu hamddifadu o gynnyrch y meysydd.
10
Yr oedd gwragedd tynergalon 'u dwylo eu hunain yn berwi eu plant, i'w gwneud yn fwyd iddynt eu hunain, pan ddinistriwyd merch fy mhobl.
11
Bwriodd yr ARGLWYDD ei holl lid, a thywalltodd angerdd ei ddig; cyneuodd dn yn Seion, ac fe ysodd ei sylfeini.
12
Ni chredai brenhinoedd y ddaear, na'r un o drigolion y byd, y gallai ymosodwr neu elyn fynd i mewn trwy byrth Jerwsalem.
13
Ond fe ddigwyddodd hyn oherwydd pechodau ei phroffwydi a chamweddau ei hoffeiriaid, a dywalltodd waed y cyfiawn yn ei chanol hi.
14
Yr oeddent yn crwydro fel deillion yn y strydoedd, wedi eu halogi gwaed, fel na feiddiai neb gyffwrdd 'u dillad.
15
"Cadwch draw, maent yn aflan," dyna a waeddai pobl "cadwch draw, cadwch draw, peidiwch 'u cyffwrdd!" Yn wir fe ffoesant a mynd ar grwydr, a dywedwyd ymysg y cenhedloedd, "Ni chnt aros yn ein plith mwyach."
16
Yr ARGLWYDD ei hun a'u gwasgarodd, heb edrych arnynt mwyach; ni roddwyd anrhydedd i'r offeiriaid, na ffafr i'r henuriaid.
17
Yr oedd ein llygaid yn pallu wrth edrych yn ofer am gymorth; buom yn disgwyl a disgwyl wrth genedl na allai achub.
18
Yr oeddent yn gwylio pob cam a gymerem, fel na allem fynd allan i'n strydoedd. Yr oedd ein diwedd yn agos, a'n dyddiau'n dod i ben; yn wir fe ddaeth ein diwedd.
19
Yr oedd ein herlidwyr yn gyflymach nag eryrod yr awyr; yr oeddent yn ein herlid ar y mynyddoedd, ac yn gwylio amdanom yn y diffeithwch.
20
Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu maglau, a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod ef y byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.
21
Gorfoledda a bydd lawen, ferch Edom, sy'n preswylio yng ngwlad Us! Ond fe ddaw'r cwpan i tithau hefyd; byddi'n feddw ac yn dy ddinoethi dy hun.
22
Daeth terfyn ar dy gosb, ferch Seion; ni chei dy gaethgludo eto. Ond fe ddaw dy gosb arnat ti, ferch Edom; fe ddatgelir dy bechod.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5