bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Mark 15
Mark 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid 'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat.
2
Holodd Pilat ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd yntau ef: "Ti sy'n dweud hynny."
3
Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn.
4
Holodd Pilat ef wedyn: "Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn."
5
Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.
6
Ar yr u373?yl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano.
7
Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel.
8
Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn l ei arfer iddynt.
9
Atebodd Pilat hwy: "A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?"
10
Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef.
11
Ond cyffrdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
12
Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, "Beth, ynteu, a wnaf hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?"
13
Gwaeddasant hwythau yn l, "Croeshoelia ef."
14
Meddai Pilat wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelia ef."
15
A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar l ei fflangellu, i'w groeshoelio.
16
Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai.
17
A gwisgasant ef phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben.
18
A dechreusant ei gyfarch: "Henffych well, Frenin yr Iddewon!"
19
Curasant ei ben gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.
20
Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef 'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.
21
Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.
22
Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, "Lle Penglog."
23
Cynigiasant iddo win myrr ynddo, ond ni chymerodd ef.
24
A chroeshoeliasant ef, a rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gi pob un.
25
Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef.
26
Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: "Brenin yr Iddewon."
27
A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo.
28
[{cf15i A chyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, "A chyfrifwyd ef gyda'r troseddwyr."}]
29
Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, "Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau,
30
disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun."
31
A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd 'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun.
32
Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu." Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.
33
A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.
34
Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu llef uchel, "Elo, Elo, lema sabachthani", hynny yw, o'i gyfieithu, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?"
35
O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, "Clywch, y mae'n galw ar Elias."
36
Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. "Gadewch inni weld," meddai, "a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr."
37
Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw.
38
A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod.
39
Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, "Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn."
40
Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome,
41
gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.
42
Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth,
43
daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
44
Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin.
45
Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff.
46
Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amdi yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
47
Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16