bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Mark 16
Mark 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Wedi i'r Saboth fynd heibio, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau, er mwyn mynd i'w eneinio ef.
2
Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o'r wythnos, a'r haul newydd godi, dyma hwy'n dod at y bedd.
3
Ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy a dreigla'r maen i ffwrdd oddi wrth ddrws y bedd i ni?"
4
Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn.
5
Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt.
6
Meddai yntau wrthynt, "Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gu373?r o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef.
7
Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. 'Y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.'"
8
Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.
9
Ar l atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni.
10
Aeth hi a dweud y newydd wrth ei ganlynwyr yn eu galar a'u dagrau.
11
A'r rheini, pan glywsant ei fod yn fyw ac wedi ei weld ganddi hi, ni chredasant.
12
Ar l hynny, ymddangosodd mewn ffurf arall i ddau ohonynt fel yr oeddent yn cerdded ar eu ffordd i'r wlad;
13
ac aethant hwy ymaith a dweud y newydd wrth y lleill. Ond ni chredodd neb y rheini chwaith.
14
Yn ddiweddarach, ymddangosodd i'r un ar ddeg pan oeddent wrth bryd bwyd, ac edliw iddynt eu hanghrediniaeth a'u hystyfnigrwydd, am iddynt beidio chredu y rhai oedd wedi ei weld ef ar l ei gyfodi.
15
A dywedodd wrthynt, "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd.
16
Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemnir.
17
A bydd yr arwyddion hyn yn dilyn i'r sawl a gredodd: bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant thafodau newydd,
18
gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant."
19
Felly, wedi iddo lefaru wrthynt, cymerwyd yr Arglwydd Iesu i fyny i'r nef ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
20
Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio hwy ac yn cadarnhau'r gair trwy'r arwyddion oedd yn dilyn.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16