bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Mark 2
Mark 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Pan ddychwelodd i Gapernaum ymhen rhai dyddiau, aeth y newydd ar led ei fod gartref.
2
Daeth cynifer ynghyd fel nad oedd mwyach le i neb hyd yn oed wrth y drws. Ac yr oedd yn llefaru'r gair wrthynt.
3
Daethant dyn wedi ei barlysu ato, a phedwar yn ei gario.
4
A chan eu bod yn methu dod 'r claf ato oherwydd y dyrfa, agorasant do'r tu375? lle'r oedd, ac wedi iddynt dorri trwodd dyma hwy'n gollwng i lawr y fatras yr oedd y claf yn gorwedd arni.
5
Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, "Fy mab, maddeuwyd dy bechodau."
6
Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno ac yn meddwl ynddynt eu hunain,
7
"Pam y mae hwn yn siarad fel hyn? Y mae'n cablu. Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?"
8
Deallodd Iesu ar unwaith yn ei ysbryd eu bod yn meddwl felly ynddynt eu hunain, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn meddwl pethau fel hyn ynoch eich hunain?
9
Prun sydd hawsaf, ai dweud wrth y claf, 'Maddeuwyd dy bechodau', ai ynteu dweud, 'Cod, a chymer dy fatras a cherdda'?
10
Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear" meddai wrth y claf,
11
"Dyma fi'n dweud wrthyt, cod, a chymer dy fatras a dos adref."
12
A chododd y dyn, cymryd ei fatras ar ei union a mynd allan yn eu gu373?ydd hwy oll, nes bod pawb yn synnu ac yn gogoneddu Duw gan ddweud, "Ni welsom erioed y fath beth."
13
Aeth allan eto i lan y mr; ac yr oedd yr holl dyrfa'n dod ato, ac yntau'n eu dysgu hwy.
14
Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, "Canlyn fi." Cododd yntau a chanlynodd ef.
15
Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei du375?, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion oherwydd yr oedd llawer ohonynt yn ei ganlyn ef.
16
A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, "Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?"
17
Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, "Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod."
18
Yr oedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. A daeth rhywrai ato a gofyn iddo, "Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?"
19
Dywedodd Iesu wrthynt, "A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.
20
Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna fe ymprydiant y diwrnod hwnnw.
21
"Ni fydd neb yn gwno clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; os gwna, fe dynn y clwt wrth y dilledyn, y newydd wrth yr hen, ac fe 'r rhwyg yn waeth.
22
Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, fe rwyga'r gwin y crwyn ac fe gollir y gwin a'r crwyn hefyd. Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd."
23
Un Saboth yr oedd yn mynd trwy'r caeau u375?d, a dechreuodd ei ddisgyblion dynnu'r tywysennau wrth fynd.
24
Ac meddai'r Phariseaid wrtho, "Edrych, pam y maent yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?"
25
Dywedodd yntau wrthynt, "Onid ydych chwi erioed wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd mewn angen, ac eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
26
Sut yr aeth i mewn i du375? Dduw, yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bwyta'r torthau cysegredig nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid; ac fe'u rhoddodd hefyd i'r rhai oedd gydag ef?"
27
Dywedodd wrthynt hefyd, "Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth.
28
Felly y mae Mab y Dyn yn arglwydd hyd yn oed ar y Saboth."
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16