bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Nahum 1
Nahum 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos.
2
Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid; y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr, ac yn dal dig at ei elynion.
3
Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth, ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb. Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl, a llwch ei draed yw'r cymylau.
4
Y mae'n ceryddu'r mr ac yn ei sychu, ac yn gwneud pob afon yn hesb; gwywa Basan a Charmel, a derfydd gwyrddlesni Lebanon.
5
Cryna'r mynyddoedd o'i flaen, a thodda'r bryniau; difrodir y ddaear o'i flaen, y byd a phopeth sy'n byw ynddo.
6
Pwy a saif o flaen ei lid? Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig? Tywelltir ei lid fel tn, a dryllir y creigiau o'i flaen.
7
Y mae'r ARGLWYDD yn dda yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.
8
Ond llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr, ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.
9
Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD? Gwna ef ddiwedd llwyr, fel na ddaw blinder ddwywaith.
10
Fel perth o ddrain fe'u hysir, fel diotwyr 'u diod, fel sofl wedi sychu'n llwyr.
11
Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwynio drygioni yn erbyn yr ARGLWYDD cynghorwr dieflig.
12
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Er eu bod yn gyflawn a niferus, eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant. Er imi dy flino, ni flinaf di mwyach.
13
Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat, a thorraf dy rwymau."
14
Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat: "Ni fydd had o'th hil mwyach; torraf ymaith ddelw ac eilun o du375? dy dduwiau; a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig."
15
Wele ar y mynyddoedd draed y negesydd yn cyhoeddi heddwch. Dathla dy wyliau, O Jwda, tl dy addunedau, oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto; fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3