bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Nahum 3
Nahum 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Gwae'r ddinas waedlyd, sy'n dwyll i gyd, yn llawn anrhaith a heb derfyn ar ysbail!
2
Clec y chwip, trwst olwynion, meirch yn carlamu a cherbydau'n ysgytian,
3
marchogion yn ymosod, cleddyfau'n disgleirio, gwaywffyn yn fflachio. Llu o glwyfedigion, pentyrrau o gyrff, meirwon dirifedi baglant dros y cyrff.
4
Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain, y deg ei phryd, meistres swynion, a dwyllodd genhedloedd 'i phuteindra, a phobloedd 'i swynion.
5
"Wele fi yn dy erbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Codaf odre dy wisg at dy wyneb, a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd, a'th warth i'r teyrnasoedd.
6
Taflaf fudreddi drosot, gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.
7
Yna bydd pob un a'th wl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud, 'Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla hi?' O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?"
8
A wyt yn well na Thebes, sydd ar lannau'r Neil, gyda du373?r o'i hamgylch, y mr yn fur, a'r lli yn wrthglawdd iddi?
9
Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd; Put a Libya oedd ei chymorth.
10
Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo; drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol; bwriwyd coelbren am ei huchelwyr, a rhwymwyd ei mawrion chadwynau.
11
Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig, ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.
12
Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigys gyda'u ffigys cynnar aeddfed; pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr.
13
Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol, y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion, a thn wedi ysu eu barrau.
14
Tyn ddu373?r ar gyfer gwarchae, cryfha dy amddiffynfeydd; dos at y clai, sathra'r pridd, moldia briddfeini.
15
Er hynny, cei dy ddifa gan dn, fe'th dorrir ymaith 'r cleddyf, ac fe'th ysir fel gan locust. Lluosoga fel y locust, lluosoga fel y sbonciwr, haid sy'n ymledu ac yn hedfan ymaith.
16
Y mae dy farsiandwyr yn lluosocach na sr y nefoedd,
17
dy dywysogion fel locustiaid, dy gapteiniaid fel cwmwl o sboncwyr ymsefydlant ar y muriau ar ddiwrnod oer, ond pan gyfyd yr haul ehedant ymaith, ac ni u373?yr neb ble maent.
18
Cysgu y mae dy fugeiliaid, O frenin Asyria, a'th arweinwyr yn gorffwyso; gwasgarwyd dy luoedd hyd y mynyddoedd, heb neb i'w casglu.
19
Ni ellir lliniaru dy glwyf; y mae dy archoll yn ddwfn. Bydd pob un a glyw'r newydd amdanat yn curo'i ddwylo o'th blegid. A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3