bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Nahum 2
Nahum 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn; diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd, rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd.
2
Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob, a gogoniant Israel yr un modd, er i'r anrheithwyr eu difetha a dinoethi eu canghennau.
3
Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch, a'r milwyr mewn ysgarlad, a'i gerbydau yn eu rhengoedd yn fflachio fel tn, a'r gwu375?r meirch yn prancio.
4
Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd, a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored; fflachiant fel ffaglau, gwibiant fel mellt.
5
Gelwir y glewion i'r frwydr, baglant hwythau wrth ddod; brysiant at y mur, a pharatoir yr amddiffyn.
6
Agorir llifddorau'r afonydd, ac y mae'r plas mewn dychryn;
7
dygir y frenhines ymaith i gaethglud, a'i morynion yn galaru, yn cwyno fel colomennod ac yn curo dwyfron.
8
Y mae Ninefe fel llyn a'i ddyfroedd yn diflannu. "Aros! Aros!" meddant, ond nid yw neb yn troi'n l.
9
Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur! Nid oes terfyn ar y trysor, nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.
10
Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi, pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian, y llwynau'n crynu, ac wyneb pawb yn gwelwi!
11
Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc, cynefin y llew a'r llewes, lle triga'r cenawon heb eu tarfu?
12
Darniodd y llew ddigon i'w genawon, a lladd ar gyfer ei lewesau; llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth, a'i loches 'i raib.
13
"Wele fi yn dy erbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Llosgaf dy ffau mewn mwg, ac ysa'r cleddyf dy genawon; torraf ymaith dy ysbail o'r tir, ac ni chlywir mwyach sn am dy weithredoedd."
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3