bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Nehemiah 1
Nehemiah 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
1
Geiriau Nehemeia fab Hachaleia. Ym mis Cislef yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn yn y palas yn Susan,
2
cyrhaeddodd Hanani, un o'm brodyr, a gwu375?r o Jwda gydag ef. Holais hwy am Jerwsalem ac am yr Iddewon, y rhai dihangol a adawyd ar l heb fynd i'r gaethglud.
3
Dywedasant hwythau wrthyf, "Y mae'r gweddill a adawyd ar l yn y dalaith, heb eu caethgludo, mewn trybini mawr a gofid; drylliwyd mur Jerwsalem a llosgwyd ei phyrth thn."
4
Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo, a bm yn galaru ac yn ymprydio am ddyddiau, ac yn gweddo ar Dduw y nefoedd.
5
Dywedais, "O ARGLWYDD Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,
6
yn awr bydded dy glust yn gwrando a'th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gweddo o'th flaen ddydd a nos, dros blant Israel, dy weision. Yr wyf yn cyffesu'r pechodau a wnaethom ni, bobl Israel, yn dy erbyn; yr wyf fi a thu375? fy nhad wedi pechu yn dy erbyn,
7
ac ymddwyn yn llygredig iawn tuag atat trwy beidio chadw'r gorchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnaist i'th was Moses.
8
Cofia'r rhybudd a roddaist i'th was Moses pan ddywedaist, 'Os byddwch yn anffyddlon, byddaf fi'n eich gwasgaru ymysg y bobloedd;
9
ond os dychwelwch ataf a chadw fy ngorchmynion a'u gwneud, byddaf yn casglu'r rhai a wasgarwyd hyd gyrion byd, ac yn eu cyrchu i'r lle a ddewisais i roi fy enw yno.'
10
Dy weision a'th bobl di ydynt rhai a waredaist 'th allu mawr ac 'th law nerthol.
11
O ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was a'th weision sy'n ymhyfrydu mewn parchu dy enw, a rho lwyddiant i'th was heddiw a phr iddo gael trugaredd gerbron y gu373?r hwn." Yr oeddwn i yn drulliad i'r brenin.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13