bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Nehemiah 8
Nehemiah 8
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
1
Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd yr holl bobl fel un yn y sgwr sydd o flaen Porth y Du373?r. Yna dywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd am ddod llyfr cyfraith Moses, sef yr un a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Israel.
2
Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra yr offeiriad 'r gyfraith o flaen y gynulleidfa, yn wu375?r a gwragedd, pawb a fedrai ddeall yr hyn a glywai.
3
Darllenodd rannau ohoni, o doriad gwawr hyd hanner dydd, yng ngu373?ydd y gwu375?r a'r gwragedd oedd yn medru deall, gan wynebu'r sgwr o flaen Porth y Du373?r; a gwrandawodd pawb yn astud ar lyfr y gyfraith.
4
Safodd Esra yr ysgrifennydd ar bulpud pren oedd wedi ei wneud i'r diben. Ar yr ochr dde iddo safodd Matitheia, Sema, Anaia, Ureia, Hilceia a Maaseia, ac ar y chwith Pedaia, Misael, Malcheia, Hasum, Hasbadana, Sechareia a Mesulam.
5
Agorodd Esra y llyfr yng ngolwg yr holl bobl, oherwydd yr oedd ef yn uwch na hwy, a phan agorodd y llyfr, safodd pawb ar eu traed.
6
Bendithiodd Esra yr ARGLWYDD, y Duw mawr, ac atebodd yr holl bobl, "Amen, Amen", gan godi eu dwylo ac ymgrymu ac addoli'r ARGLWYDD 'u hwynebau tua'r ddaear.
7
Yr oedd y Lefiaid, Jesua, Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, yn egluro'r gyfraith i'r bobl, a hwythau'n aros yn eu lle.
8
Yr oeddent yn darllen o lyfr cyfraith Dduw, ac yn ei gyfieithu a'i esbonio fel bod pawb yn deall y darlleniad.
9
Yna dywedodd Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn hyfforddi'r bobl, wrth yr holl bobl, "Y mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw; peidiwch galaru nac wylo." Oherwydd yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar eiriau'r gyfraith.
10
Yna fe ddywedodd wrthynt, "Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch 'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth."
11
A thawelodd y Lefiaid yr holl bobl a dweud, "Byddwch ddistaw; peidiwch galaru, oherwydd y mae heddiw yn ddydd sanctaidd."
12
Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed ac i rannu ag eraill ac i orfoleddu, oherwydd yr oeddent wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthynt.
13
Ar yr ail ddiwrnod daeth pennau-teuluoedd yr holl bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, at Esra yr ysgrifennydd er mwyn astudio geiriau'r gyfraith.
14
Yn y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses, fe gawsant yn ysgrifenedig y dylai'r Israeliaid fyw mewn pebyll yn ystod yr u373?yl yn y seithfed mis,
15
a'u bod i anfon gair a chyhoeddi ym mhob un o'u dinasoedd yn ogystal ag yn Jerwsalem, "Ewch allan i'r mynydd, a dygwch gangau olewydd ac olewydd gwyllt a myrtwydd a phalmwydd a choed deiliog i wneud pebyll, fel yr ysgrifennwyd."
16
Aeth y bobl allan i'w cyrchu, a gwnaethant bebyll iddynt eu hunain, pob un ar do ei du375? ac yn eu cynteddoedd ac yng nghynteddoedd tu375? Dduw ac yn y sgwr o flaen Porth y Du373?r ac yn y sgwr o flaen Porth Effraim.
17
Gwnaeth yr holl gynulleidfa a ddychwelodd o'r gaethglud bebyll, a byw ynddynt. Nid oedd yr Israeliaid wedi gwneud hyn o amser Josua fab Nun hyd y dydd hwnnw; a bu gorfoledd mawr iawn.
18
Darllenwyd o lyfr cyfraith Dduw yn feunyddiol o'r dydd cyntaf hyd yr olaf. Cadwasant yr u373?yl am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd bu cynulliad yn l y ddefod.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13