bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Nehemiah 5
Nehemiah 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Dechreuodd y bobl gyffredin a'u gwragedd gwyno'n enbyd yn erbyn eu cyd-Iddewon.
2
Yr oedd rhai yn dweud, "Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meibion a'n merched i gael u375?d er mwyn bwyta a byw."
3
Yr oedd eraill yn dweud, "Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meysydd a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu u375?d yn ystod y newyn."
4
Dywedai eraill, "Yr ydym wedi benthyca arian ar ein meysydd a'n gwinllannoedd i dalu treth y brenin.
5
Yr ydym o'r un cnawd 'n tylwyth, ac y mae ein plant ni fel eu plant hwy; eto, yr ydym ni'n gorfod gwneud caethweision o'n meibion a'n merched. Y mae rhai o'n merched eisoes yn gaethion, ond ni allwn wneud dim, gan fod ein meysydd a'n gwinllannoedd ym meddiant eraill."
6
Pan glywais eu cwyn a'r hyn yr oeddent yn ei ddweud, yr oeddwn yn ddig iawn.
7
Yna, ar l ystyried y peth yn ofalus, ceryddais y pendefigion a'r swyddogion a dweud wrthynt, "Yr ydych yn mynnu llog gan eich cymrodyr." Ceryddais hwy'n llym,
8
a dweud, "Yr ydym ni, yn l ein gallu, wedi prynu ein cyd-Iddewon a werthwyd i'r cenhedloedd, ond yr ydych chwi'n gwerthu eich brodyr, a ninnau'n gorfod eu prynu'n l." Yr oeddent yn ddistaw heb air i'w ddweud.
9
Ac meddwn wrthynt, "Nid ydych yn ymddwyn yn iawn. Oni ddylech ofni ein Duw yn hytrach na gwaradwydd y cenhedloedd, ein gelynion?
10
Yr wyf fi a'm brodyr a'm gweision yn rhoi arian ac u375?d ar fenthyg iddynt. Gadewch i ni roi terfyn ar y llogau hyn.
11
Rhowch yn l iddynt ar unwaith eu meysydd, eu gwinllannoedd, eu gerddi olewydd a'u tai; a hefyd y ganfed ran yr ydych wedi ei chymryd ganddynt yn llog mewn arian, u375?d, gwin ac olew."
12
Dywedasant, "Fe'u rhoddwn yn l, ac ni ofynnwn iddynt am ragor; gwnawn fel yr wyt yn ei orchymyn." Yna gelwais ar yr offeiriaid i wneud iddynt addunedu i gadw eu haddewid;
13
ysgydwais fy mantell a dweud, "Fel hyn bydded i Dduw ysgwyd o'i du375? ac o'i eiddo bob un sy'n gwrthod cadw'r addewid hon; bydded wedi ei ysgwyd yn wag." A dywedodd yr holl gynulleidfa, "Amen", a moliannu'r ARGLWYDD. Ac fe gadwodd y bobl at yr addewid hon.
14
Ac yn wir, o'r dydd y penodwyd fi yn llywodraethwr yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i'r Brenin Artaxerxes, sef cyfnod o ddeuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr ddogn bwyd y llyw-odraethwr.
15
Bu'r llywodraethwyr blaenorol oedd o'm blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicl o arian. Yr oedd eu gweision hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw.
16
Atgyweiriais y mur hwn, er nad oeddwn berchen yr un cae, a daeth fy holl weision at ei gilydd yno ar gyfer y gwaith.
17
Yr oedd cant a hanner o'r Iddewon a'r llywodraethwyr, yn ogystal 'r rhai a ddaeth atom oddi wrth y cenhedloedd o'n cwmpas,
18
wrth fy mwrdd, fel bod ych, a chwech o'r defaid gorau, ac adar yn cael eu paratoi ar fy nghyfer bob dydd, a digon o win o bob math bob deg diwrnod; er hynny ni ofynnais am ddogn bwyd y llywodraethwr am ei bod yn galed ar y bobl.
19
Fy Nuw, cofia er daioni i mi y cwbl a wneuthum i'r bobl yma.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13