bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Revelation 11
Revelation 11
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 12 →
1
Rhoddwyd imi wialen yn ffon fesur, a dywedwyd wrthyf: "Cod a mesura deml Duw a'r allor a'r addolwyr ynddi.
2
Ond anwybydda gyntedd allanol y deml; paid mesur hwnnw, oherwydd fe'i rhoddwyd i'r Cenhedloedd, ac fe sathrant hwy'r ddinas sanctaidd am ddeufis a deugain.
3
Ac fe roddaf i'm dau dyst gennad i broffwydo mewn gwisg sachliain am y deuddeg cant a thrigain hyn o ddyddiau."
4
Dyma'r ddwy olewydden a'r ddau ganhwyllbren sy'n sefyll gerbron Arglwydd y ddaear.
5
Os myn unrhyw un wneud niwed iddynt, daw tn allan o'u genau a difa'u gelynion; yn y modd hwn y bydd yn rhaid lladd unrhyw un a fyn wneud niwed iddynt.
6
Y mae gan y rhain awdurdod i gau'r nefoedd fel na bydd i law syrthio yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i'w troi'n waed ac i daro'r ddaear phob pla mor aml ag y mynnant.
7
Wedi iddynt orffen eu tystiolaeth, bydd y bwystfil sy'n codi o'r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn, yn eu gorchfygu a'u lladd.
8
Bydd eu cyrff yn strydoedd y ddinas fawr a elwir yn ffigurol yn Sodom a'r Aifft; yno hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd.
9
Am dri diwrnod a hanner, bydd rhai o blith pobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu rhoi mewn bedd.
10
A llawenha trigolion y ddaear trostynt a gorfoleddant, gan anfon rhoddion i'w gilydd; oherwydd bu'r ddau broffwyd hyn yn boenedigaeth i drigolion y ddaear.
11
Ond wedi'r tri diwrnod a hanner, daeth anadl einioes oddi wrth Dduw i mewn iddynt; safasant ar eu traed, a daeth ofn mawr ar y rhai oedd yn eu gwylio.
12
Yna clywsant lais uchel o'r nef yn dweud wrthynt, "Dewch i fyny yma." Ac aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl, a'u gelynion yn eu gwylio.
13
Yr awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o'r ddinas. Lladdwyd saith mil o bobl yn y daeargryn, a brawychwyd y gweddill a rhoesant ogoniant i Dduw'r nef.
14
Aeth yr ail wae heibio; wele'r trydydd gwae yn dod ar fyrder.
15
Seiniodd y seithfed angel ei utgorn. Yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dweud: "Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef, a bydd yn teyrnasu byth bythoedd."
16
A dyma'r pedwar henuriad ar hugain, sy'n eistedd ar eu gorseddau gerbron Duw, yn syrthio ar eu hwynebau ac yn addoli Duw
17
gan ddweud: "Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn sydd a'r hwn oedd, am iti feddiannu dy allu mawr a dechrau teyrnasu.
18
Llidiodd y cenhedloedd, a daeth dy ddigofaint ac amser barnu'r meirw, a rhoi eu gwobr i'th weision y proffwydi, ac i'r saint ac i'r rhai sy'n ofni dy enw, yn fach a mawr, yr amser i ddinistrio'r rhai sy'n dinistrio'r ddaear."
19
Agorwyd teml Duw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod yn ei deml ef; yna bu fflachiadau mellt a su373?n taranau a daeargryn a chenllysg mawr.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22