bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Revelation 2
Revelation 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
1
"At angel yr eglwys yn Effesus, ysgrifenna: 'Dyma y mae'r hwn sy'n dal y saith seren yn ei law dde, ac yn cerdded yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn ei ddweud:
2
Gwn am dy weithredoedd a'th lafur a'th ddyfalbarhad, a gwn na elli oddef y rhai drwg; gwn dy fod wedi rhoi prawf ar y rhai sy'n eu galw eu hunain yn apostolion a hwythau heb fod felly, a chefaist hwy'n gelwyddog;
3
ac y mae gennyt ddyfalbarhad, a dygaist faich trwm er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist.
4
Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, iti roi heibio dy gariad cynnar.
5
Cofia, felly, o ble y syrthiaist, ac edifarha, a gwna eto dy weithredoedd cyntaf. Os na wnei, ac os nad edifarhei, fe ddof atat a symud dy ganhwyllbren o'i le.
6
Ond y mae hyn o'th blaid, dy fod fel minnau yn casu gweithredoedd y Nicolaiaid.
7
Y sawl sydd chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof yr hawl i fwyta o bren y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.'
8
"Ac at angel yr eglwys yn Smyrna, ysgrifenna: 'Dyma y mae'r cyntaf a'r olaf, yr hwn a fu farw ac a ddaeth yn fyw, yn ei ddweud:
9
Gwn am dy orthrymder a'th dlodi, ac eto yr wyt yn gyfoethog; gwn hefyd am gabledd y rhai sy'n eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly, ond yn hytrach yn synagog Satan.
10
Paid ag ofni'r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, y mae'r diafol yn mynd i fwrw rhai ohonoch i garchar er mwyn eich profi, ac fe gewch orthrymder am ddeg diwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhof iti goron y bywyd.
11
Y sawl sydd chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Y sawl sy'n gorchfygu, ni chaiff niwed gan yr ail farwolaeth.'
12
"Ac at angel yr eglwys yn Pergamus, ysgrifenna: 'Dyma y mae'r hwn sydd 'r cleddyf llym daufiniog ganddo yn ei ddweud:
13
Gwn ym mhle yr wyt yn trigo, sef lle mae gorsedd Satan; ac eto yr wyt yn glynu wrth f'enw i, ac ni wedaist dy ffydd ynof fi, hyd yn oed yn nyddiau fy nhyst Antipas, a fu'n ffyddlon i mi ac a laddwyd yn eich mysg chwi, lle mae Satan yn trigo.
14
Ond y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, fod gennyt rai yna sy'n glynu wrth athrawiaeth Balaam, a ddysgodd i Balac osod magl i blant Israel, a pheri iddynt fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, a phuteinio;
15
yn yr un modd, y mae gennyt tithau hefyd rai sy'n glynu wrth athrawiaeth y Nicolaiaid.
16
Edifarha felly; os na wnei, fe ddof atat yn fuan, a rhyfela yn eu herbyn hwy chleddyf fy ngenau.
17
Y sawl sydd chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof gyfran o'r manna cuddiedig, a rhof hefyd garreg wen, ac yn ysgrifenedig ar y garreg enw newydd na fydd neb yn ei wybod ond y sawl sydd yn ei derbyn.'
18
"Ac at angel yr eglwys yn Thyatira, ysgrifenna: 'Dyma y mae Mab Duw yn ei ddweud, yr hwn sydd ganddo lygaid fel fflam dn, a'i draed fel pres gloyw:
19
Gwn am dy weithredoedd, dy gariad, dy ffydd, dy wasanaeth, dy ddyfalbarhad, a gwn fod dy weithredoedd diwethaf yn fwy lluosog na'r rhai cyntaf.
20
Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, dy fod yn goddef y wraig honno, Jesebel, sy'n ei galw ei hun yn broffwydes, a hithau'n dysgu ac yn twyllo fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod.
21
Rhoddais amser iddi i edifarhau, ond y mae'n gwrthod edifarhau am ei phuteindra.
22
Wele, bwriaf hi i wely cystudd, a'r rhai sy'n godinebu gyda hi i orthrymder mawr, os nad edifarhnt am ei gweithredoedd hi.
23
A lladdaf ei phlant hi yn gelain; ac fe gaiff yr holl eglwysi wybod mai myfi yw'r hwn sy'n chwilio meddyliau a chalonnau. Rhoddaf i chwi bob un yn l eich gweithredoedd.
24
Wrth y gweddill ohonoch yn Thyatira, pawb nad ydynt yn derbyn yr athrawiaeth hon, ac sydd heb brofiad o'r hyn a elwir yn ddyfnderoedd Satan, rwy'n dweud hyn: ni osodaf arnoch faich arall,
25
ond yn unig glynwch wrth yr hyn sydd gennych, hyd nes i mi ddod.
26
I'r sawl sy'n gorchfygu ac yn dal ati i wneud fy ngweithredoedd hyd y diwedd, rhof iddo awdurdod ar y cenhedloedd
27
a bydd yn eu llywodraethu hwy gwialen haearn; malurir hwy fel llestri pridd
28
fel y derbyniais innau hefyd awdurdod gan fy Nhad. Rhof iddo hefyd seren y bore.
29
Y sawl sydd chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.'
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22