bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Revelation 16
Revelation 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
1
Clywais lais uchel o'r deml yn dweud wrth y saith angel, "Ewch ac arllwyswch ar y ddaear saith ffiol llid Duw."
2
Aeth y cyntaf ac arllwys ei ffiol ar y ddaear; a chododd cornwydydd drwg a phoenus ar y rhai yr oedd nod y bwystfil arnynt ac a oedd yn addoli ei ddelw.
3
Arllwysodd yr ail ei ffiol i'r mr; a throes y mr yn debyg i waed corff marw, a bu farw popeth byw oedd yn y mr.
4
Arllwysodd y trydydd ei ffiol i'r afonydd ac i ffynhonnau'r dyfroedd; a throesant yn waed.
5
Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud: "Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un, yn y barnedigaethau hyn.
6
Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi, rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed; dyma eu haeddiant."
7
Yna clywais yr allor yn dweud: "Ie, O Arglwydd Dduw hollalluog, gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau."
8
Arllwysodd y pedwerydd angel ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo hawl i losgi pobl thn.
9
Llosgwyd pobl yn enbyd, ond cablu a wnaethant enw Duw, yr hwn sydd ganddo awdurdod ar y plu hyn; ni bu'n edifar ganddynt ac ni roesant ogoniant iddo.
10
Arllwysodd y pumed ei ffiol ar orsedd y bwystfil; a daeth tywyllwch ar ei deyrnas ef. Yr oedd pobl yn cnoi eu tafodau gan boen,
11
ac yn cablu enw Duw'r nef o achos eu poenau a'u cornwydydd, ond ni bu'n edifar ganddynt am eu gweithredoedd.
12
Arllwysodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, afon Ewffrates; a sychodd ei dyfroedd hi i baratoi ffordd i'r brenhinoedd o'r dwyrain.
13
Gwelais yn dod allan o enau'r ddraig ac o enau'r bwystfil ac o enau'r gau broffwyd dri ysbryd aflan, tebyg i lyffaint;
14
oherwydd ysbrydion cythreulig oeddent, yn gwneud arwyddion gwyrthiol. Ac aethant allan at frenhinoedd yr holl fyd i'w casglu ynghyd i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog.
15
(Wele, rwy'n dod fel lleidr. Gwyn ei fyd y sawl sy'n effro, a'i ddillad ganddo'n barod, rhag iddo fynd o amgylch yn noeth a'i weld yn ei warth.)
16
Ac felly casglasant y brenhinoedd ynghyd i'r lle a elwir mewn Hebraeg, Armagedon.
17
Arllwysodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llais uchel o'r deml, o'r orsedd, yn dweud, "Y mae'r cwbl ar ben!"
18
Yna bu fflachiadau mellt a su373?n taranau; bu hefyd ddaeargryn mawr, na ddigwyddodd ei debyg o'r blaen yn hanes y ddynolryw ar y ddaear gan mor fawr ydoedd.
19
Holltwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a syrthiodd dinasoedd y cenhedloedd. Cofiodd Duw Fabilon fawr, a rhoi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint.
20
Ciliodd pob ynys, a diflannodd y mynyddoedd o'r golwg.
21
Ac ar bobl disgynnodd o'r awyr genllysg mawr, yn pwyso tua phedwar cilogram ar ddeg ar hugain yr un; ond cablu Duw a wnaethant am bla'r cenllysg, gan mor llym oedd y pla hwnnw.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22