bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Song of Solomon 2
Song of Solomon 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 3 →
1
Yr wyf fel rhosyn Saron, fel lili'r dyffrynnoedd.
2
Ie, lili ymhlith drain yw f'anwylyd ymysg merched.
3
Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig yw fy nghariad ymysg y bechgyn. Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod, ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.
4
Cymerodd fi i'r gwindy, gyda baner ei gariad drosof.
5
Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta, a'm hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.
6
Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
7
Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch yn enw iyrchod ac ewigod y maes. Peidiwch deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod.
8
Ust! dyma fy nghariad, dyma ef yn dod; y mae'n neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.
9
Y mae fy nghariad fel gafrewig, neu hydd ifanc; dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur, yn edrych trwy'r ffenestri, ac yn syllu rhwng y dellt.
10
Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf, "Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth;
11
oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio, ciliodd y glaw a darfu;
12
y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd, daeth yn amser i'r adar ganu, ac fe glywir cn y durtur yn ein gwlad;
13
y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir, a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd. Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth."
14
Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig, yng nghysgod y clogwyni, gad imi weld dy wyneb, a chlywed dy lais, oherwydd y mae dy lais yn swynol, a'th wyneb yn brydferth.
15
Daliwch inni'r llwynogod, y llwynogod bychain, sy'n difetha'r gwinllannoedd pan yw'r blodau ar y gwinwydd.
16
Y mae fy nghariad yn eiddo i mi, a minnau'n eiddo iddo ef; y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilau.
17
Cyn i awel y dydd godi, ac i'r cysgodion ddiflannu, tro ataf, fy nghariad, a bydd yn debyg i afrewig neu hydd ifanc ar y mynyddoedd ysgythrog.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8