bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Song of Solomon 6
Song of Solomon 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 7 →
1
O ti, y decaf o ferched, ple'r aeth dy gariad? Pa ffordd yr aeth dy gariad, inni chwilio amdano gyda thi?
2
Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd, i'r gwelyau perlysiau, i ofalu am y gerddi, ac i gasglu'r lilau.
3
Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad, ac yntau'n eiddof finnau; y mae'n bugeilio ymysg y lilau.
4
Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd, yn hardd fel Jerwsalem, mor urddasol llu banerog.
5
Tro dy lygaid oddi wrthyf, y maent yn fy nghyffroi; y mae dy wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead.
6
Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad.
7
Y tu l i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad.
8
Er bod trigain o freninesau a phedwar ugain o ordderchwragedd, a llancesau na ellir eu rhifo,
9
y mae fy ngholomen, yr un berffaith, ar ei phen ei hun, unig blentyn ei mam, y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni. Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd, ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.
10
Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?
11
Euthum i lawr i'w ardd gnau i edrych ar ffrwythau'r dyffryn, a gweld a oedd y winwydden yn blaguro, a blodau ar y pomgranadau.
12
Ni wyddwn y cawn fy rhoi yng ngherbydau perthnasau'r tywysog.
13
Tyrd yn l, tyrd yn l, Sulames! Tyrd yn l, tyrd yn l, gad inni dy weld. O fel yr hoffwch edrych ar y Sulames yn dawnsio rhwng y rhengoedd!
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8