bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Song of Solomon 8
Song of Solomon 8
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
1
O na fyddit yn frawd i mi, wedi dy fagu ar fronnau fy mam! Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu, ac ni fyddai neb yn fy nirmygu.
2
Byddwn yn dy arwain a'th ddwyn i du375? fy mam a'm hyfforddodd, a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti, sudd fy mhomgranadau.
3
Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
4
Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch. Peidiwch deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod.
5
Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch, yn pwyso ar ei chariad? Deffroais di dan y pren afalau, lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi, lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.
6
Gosod fi fel sl ar dy galon, fel sl ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf marwolaeth, a nwyd mor greulon 'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol.
7
Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi. Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei du375? am gariad, byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.
8
Y mae gennym chwaer fach sydd heb fagu bronnau. Beth a wnawn i'n chwaer pan ofynnir amdani?
9
Os mur yw hi, byddwn yn adeiladu caer arian arno; os drws, byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.
10
Mur wyf fi, a'm bronnau fel tyrau; yn ei olwg ef yr wyf fel un yn rhoi boddhad.
11
Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon; pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr, yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
12
Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun; fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian, a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant.
13
Ti sy'n eistedd yn yr ardd, a chyfeillion yn gwrando ar dy lais, gad i mi dy glywed.
14
Brysia allan, fy nghariad, a bydd yn debyg i afrewig, neu'r hydd ifanc ar fynyddoedd y perlysiau.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8