bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Peter 1
1 Peter 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Petr, apostol i Iesu Grist, at yr etholedigion (ymdeithyddion y Gwasgariad yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithunia),
2
yn ol rhag-wybodaeth Duw Dad, yn sancteiddiad yr Yspryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer.
3
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol Ei fawr drugaredd a’n had-genhedlodd i obaith byw trwy adgyfodiad Iesu Grist o feirw,
4
i etifeddiaeth anllygradwy, a dihalogedig, a diddiflannedig,
5
mewn cadw yn y nef i chwi, y rhai trwy allu Duw sy’n cael eich gwarchadw trwy ffydd i iachawdwriaeth barod i’w datguddio yn yr amser diweddaf:
6
yn yr hwn yr ydych yn gorfoleddu, er am ychydig yn awr, os rhaid sydd, wedi eich tristau mewn amryw demtasiynau,
7
fel y bo i brofiad eich ffydd, yr hwn sydd werthfawrusach nag aur y sy’n darfod a thrwy dân yn cael ei brofi, ei gaffael er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist;
8
yr Hwn, heb Ei weled, yr ydych yn Ei garu, yn yr Hwn, heb fod yn awr yn Ei weled, ond yn credu, gorfoleddu yr ydych â llawenydd anrhaethadwy a gogoneddedig;
9
yn derbyn diwedd eich ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau;
10
am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi, gan chwilio pa bryd,
11
neu ba ryw bryd, a hyspysai Yspryd Crist, yr Hwn oedd ynddynt, wrth rhag-dystiolaethu o Hono y dioddefiadau o ran Crist, a’r gogoniant ar eu hol;
12
i’r rhai y datguddiwyd mai nid iddynt hwy eu hunain, ond i chwi y gweinyddent y pethau sydd yn awr wedi eu mynegi i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Yspryd Glân wedi ei ddanfon o’r nef: i’r hyn bethau y chwennych angylion ymgrymmu i edrych.
13
O herwydd paham, wedi gwregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras sy’n cael ei ddwyn attoch yn natguddiad Iesu Grist;
14
megis plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’ch chwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth:
15
eithr yn ol yr Hwn a’ch galwodd, Y Sanctaidd, chwithau hefyd byddwch sanctaidd ym mhob ymarweddiad;
16
oblegid yr ysgrifenwyd, “Sanctaidd fyddwch, canys Myfi wyf sanctaidd.”
17
Ac os megis Tad, yr ydych yn galw ar yr Hwn sydd heb dderbyn gwyneb, yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn,
18
gan wybod mai nid â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd o’ch ofer ymarweddiad a draddodwyd oddiwrth eich tadau,
19
eithr â gwerthfawr waed, fel eiddo oen dianaf a difrycheulyd,
20
sef gwaed Crist, yr Hwn a rag-adnabuwyd yn wir cyn seiliad y byd, ond a amlygwyd yn niwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi,
21
y rhai, Trwyddo Ef, ydych yn gredinwyr yn Nuw yr Hwn a’i cyfododd Ef o feirw, a gogoniant a roddodd Iddo Ef, fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith yn Nuw.
22
Eithr eneidiau wedi eu puro genych yn eich ufudd-dod i’r Gwirionedd, i frawdgarwch diragrith, o’r galon cerwch y naill y llall yn llwyrfrydig,
23
wedi eich adgenhedlu, nid o had llygradwy, eithr anllygradwy, trwy Air byw Duw a pharhaus:
24
canys “Pob cnawd sydd fel glaswelltyn, A’i holl ogoniant fel blodeuyn y glaswelltyn: Sychir y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrth,
25
Ond gair Iehofah sy’n aros yn dragywydd:” a hwn yw’r gair a efengylwyd i chwi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5