bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Peter 2
1 Peter 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Wedi rhoi ymaith, gan hyny, bob drygioni, a phob twyll a rhagrith a chenfigennau,
2
a phob enllib, megis babanod newydd eu geni, am yr ysprydol didwyll laeth hiraethwch, fel trwyddo ef y cynnyddoch i iachawdwriaeth, os archwaethasoch mai da yw ’r Arglwydd.
3
A chan ddyfod Atto Ef, y Maen Byw,
4
yr Hwn gan ddynion yn wir a wrthodwyd, ond gyda Duw yn etholedig, yn werthfawr,
5
chwychwi hefyd, megis meini byw, a adeiledir yn dŷ ysprydol, er offeiriadaeth sanctaidd i offrymmu aberthau ysprydol cymmeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6
Canys y mae yn yr Ysgrythyr, “Wele, gosod yr wyf yn Tsion ben-congl-faen, etholedig, gwerthfawr; A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir ddim.”
7
I chwi, gan hyny, y mae’r gwerthfawrogrwydd, y rhai ydych yn credu; ond i’r rhai nad y’nt yn credu, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaed yn ben y gongl,”
8
ac “Yn faen taro, ac yn graig tramgwydd,” y rhai sy’n taro wrth y Gair, yn anufudd; i’r hwn beth hefyd y’u gosodwyd.
9
Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw fel y mynegoch rinweddau yr Hwn a’ch galwodd chwi allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni Ef;
10
y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr pobl Dduw ydych; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr wedi cael trugaredd.
11
Anwylyd, cynghoraf chwi megis ymdeithyddion a dieithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, rhai sy’n milwrio yn erbyn yr enaid,
12
gan fod a’ch ymarweddiad ymhlith y cenhedloedd yn dda, fel yn yr hyn y maent yn eich enllibio megis drwg-weithredwyr, y bo iddynt, oddiwrth eich gweithredoedd da, gan eu gweled, ogoneddu Duw yn nydd ymweliad.
13
Ymddarostyngwch i bob dynol ordinhad, o herwydd yr Arglwydd; pa un bynnag ai i frenhin, megis goruchaf;
14
ai i lywiawdwyr, megis yn cael eu danfon ganddo ef er dial ar ddrwg-weithredwyr, a mawl gweithredwyr yr hyn sy dda;
15
canys fel hyn y mae ewyllys Duw, trwy wneuthur yr hyn sy dda ostegu o honoch anwybodaeth y dynion ynfyd;
16
megis yn rhyddion, ond nid a’r rhyddid genych yn orchudd drygioni, eithr megis caethweision Duw.
17
Pob dyn anrhydeddwch; y brawdoliaeth cerwch; Duw ofnwch; y brenhin anrhydeddwch.
18
Y gweinidogion, byddwch yn ymddarostwng, gyda phob ofn, i’ch meistriaid; nid unig i’r rhai da ac addfwyn, eithr hefyd i’r rhai gwyrog;
19
canys hyn sydd ddiolch-wiw, os o herwydd cydwybod tuag at Dduw y goddef neb gystuddiau, gan ddioddef ar gam;
20
canys pa glod, os pan yn pechu ac yn cael eich cernodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur yr hyn sydd dda, ac yn dioddef, y dygwch ef yn amyneddgar, hyn sydd ddiolch-wiw gyda Duw:
21
canys i hyn y’ch galwyd; canys Crist hefyd a ddioddefodd drosoch, gan adael i chwi esampl fel y canlynech yn Ei olion;
22
yr Hwn, pechod ni wnaeth, ac ni chafwyd chwaith dwyll yn Ei enau;
23
ond pan yn cael Ei ddifenwi, ni ddifenwai drachefn; pan yn dioddef, ni fygythiai; ond traddodai Ei hun i’r Hwn sy’n barnu yn gyfiawn:
24
yr Hwn ein pechodau Efe Ei hun a ddug yn Ei gorph ar y pren; fel, ar ol i bechodau y buom feirw, i gyfiawnder y byddom byw; trwy gleisiau yr Hwn y’ch iachawyd:
25
canys oeddych, fel defaid, yn myned ar gyfeiliorn; eithr dychwelwyd chwi yn awr at Fugail ac Esgob eich eneidiau.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5