bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Peter 5
1 Peter 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Yr henuriaid yn eich plith, gan hyny, a gynghoraf, a mi yn gydhenuriad a thyst o ddioddefiadau Crist, ac yn gyfrannog hefyd o’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio, porthwch braidd Duw y sydd yn eich plith;
2
gan arolygu, nid trwy gymmell, eithr yn ewyllysgar yn ol Duw; nid er mwyn budr-elw, eithr â meddwl parod;
3
ac nid megis yn arglwyddiaethu ar y rhannau a ymddiriedwyd i chwi, eithr gan fyned yn esamplau i’r praidd:
4
ac wedi ymddangos o’r Pen-Bugail cewch anniflannedig goron y gogoniant.
5
Yr un ffunud, y rhai ieuengach, byddwch ddarostyngedig i’r rhai hynach. A phawb, byddwch y naill tua’r llall a gostyngeiddrwydd yn wregys genych, canys yn erbyn y beilchion y mae Duw yn Ei osod Ei hun, ond i’r rhai gostyngedig yn rhoddi gras.
6
Gostynger chwi, gan hyny, dan rymus law Duw, fel y’ch dyrchafo chwi yn yr iawn amser,
7
gyda’ch holl bryder wedi ei fwrw Arno Ef, canys maliaw y mae Efe am danoch.
8
Byddwch sobr; gwyliwch: eich gwrthwynebwr diafol, fel llew yn rhuo, sy’n rhodio oddi amgylch,
9
yn ceisio rhyw un i’w lyngcu; yr hwn gwrthsefwch, yn gadarn yn y ffydd, gan wybod fod yr un dioddefiadau yn cael eu cyflawni gan eich brawdoliaeth y sydd yn y byd.
10
A Duw’r holl ras, yr Hwn a’ch galwodd i’w dragywyddol ogoniant yng Nghrist, pan am ychydig y dioddefasoch, Ei hun a’ch perffeithia, a’ch cadarnha, a’ch cryfha.
11
Iddo Ef y bo’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12
Gyda Silfanus, y ffyddlawn frawd fel y’i cyfrifaf, yr ysgrifenais attoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw wir ras Duw; ynddo ef sefwch.
13
Eich annerch y mae y gyd-etholedig y sydd yn Babilon; a Marc, fy mab.
14
Annerchwch y naill y llall â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y sydd yng Nghrist.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5