bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Peter 4
1 Peter 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Crist, gan hyny, wedi dioddef yn y cnawd, chwithau hefyd ymarfogwch â’r un meddwl, canys yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd,
2
a beidiodd â phechod, fel nad ddim mwyach wrth chwantau dynion, eithr wrth ewyllys Duw, y treulioch y gweddill o’ch amser yn y cnawd;
3
canys digon yw’r amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, gwin-llydrwydd, cyfeddach, diotta, ac erchyll eulun-addoliadau;
4
yn yr hyn y synnant, gan nad ydych yn cyd-redeg â hwynt i’r un geudy o ormodedd, gan gablu;
5
y rhai a roddant gyfrif i’r Hwn sydd barod i farnu’ r byw a’ r meirw.
6
Canys er mwyn hyn, i’r meirw hefyd y pregethwyd, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond y byddent byw yn ol Duw yn yr yspryd.
7
Ond i bob peth, y diwedd sydd agos; byddwch bwyllog, gan hyny, ac yn sobr i weddïau.
8
O flaen pob peth, byddwch a’ch cariad tuag at eich gilydd yn llwyr-frydig,
9
canys cariad a orchuddia liaws o bechodau; yn lletteugar y naill i’r llall heb rwgnach;
10
fel y bu i bob un dderbyn rhodd, gan ei gweinyddu o honoch yn eich plith eich hunain, megis disdeiniaid da o amryw ras Duw;
11
os yw neb yn llefaru, megis yn llefaru oraclau Duw; os yw neb yn gweinyddu, megis yn gweinyddu o’r gallu a finistrir gan Dduw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i’r Hwn y mae’r gogoniant a’r arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.
12
Anwylyd, na synnwch wrth y profiad tanllyd sy’n codi yn eich plith fel pe bai peth dieithr yn digwydd;
13
eithr cymmaint ag yr ydych yn gyfrannogion o ddioddefiadau Crist, llawenychwch, fel yn natguddiad Ei ogoniant y llawenychoch dan orfoleddu.
14
Os gwarthruddir chwi ag enw Crist, dedwydd ydych, canys, Yspryd y gogoniant ac Yspryd Duw, arnoch chwi y mae yn gorphwys;
15
canys na fydded i neb o honoch ddioddef megis llofrudd neu leidr, neu ddrwg-weithredwr, neu megis arall-arolygwr;
16
ond os megis Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn:
17
canys yr amser yw i ddechreu o’r farn, oddiwrth dŷ Dduw; ac os yn gyntaf oddiwrthym ni, pa beth fydd diwedd y rhai sy’n anufuddhau i Efengyl Dduw?
18
Ac os y cyfiawn sydd braidd yn gadwedig; yr annuwiol a phechadur, pa le yr ymddengys?
19
Felly hefyd y rhai sy’n dioddef yn ol ewyllys Duw, i Greawdwr ffyddlawn gorchymynont eu heneidiau trwy wneuthur yr hyn sy dda.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5