bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Thessalonians 1
1 Thessalonians 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Paul a Silfanus a Thimotheus, at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist: gras i chwi a thangnefedd.
2
Diolch yr ydym i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll,
3
gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddïau, gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, ger bron ein Duw a Thad;
4
gan wybod, frodyr anwyl gan Dduw, eich etholedigaeth,
5
na fu i’n Hefengyl ddyfod attoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr, fel y gwyddoch pa fath rai a fuom i chwi er eich mwyn,
6
a chwi a aethoch yn efelychwyr i ni ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y Gair mewn gorthrymder lawer,
7
gyda llawenydd yr Yspryd Glân, fel yr aethoch yn siampl i’r rhai oll sy’n credu ym Macedonia ac yn Achaia:
8
canys oddiwrthych chwi y seiniodd Gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhob man eich ffydd tuag at Dduw a aeth allan, fel nad oes arnom raid i lefaru dim;
9
canys hwy eu hunain sy’n mynegi am danom ni pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom attoch, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eulunod i wasanaethu Duw byw a gwir,
10
ac i ddisgwyl am Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Efe o’r meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o’r digofaint sydd yn dyfod.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5