bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Thessalonians 4
1 Thessalonians 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Yn ddiweddaf, gan hyny, frodyr, attolygwn i chwi, a deisyfiwn yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch genym pa fodd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio,
2
y bo i chwi ymhelaethu fwy-fwy, canys gwyddoch pa orchymynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu;
3
canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad, ar ymgadw o honoch oddiwrth odineb,
4
ar wybod o bob un o honoch pa fodd i feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd ac anrhydedd,
5
nid yngwyn trachwant fel y cenhedloedd y sydd heb adnabod Duw;
6
ar beidio â throseddu na gwneuthur cam â’i frawd mewn dim, canys dialydd yw’ r Arglwydd am yr holl bethau hyn, fel y rhag-rybuddiasom chwi hefyd, ac y tystiasom;
7
canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, eithr mewn sancteiddrwydd.
8
Gan hyny, yr hwn sy’n gwrthod, nid dyn y mae yn ei wrthod, eithr Duw, yr Hwn sy’n rhoddi ei Yspryd Glân ynom.
9
Ond am frawdgarwch nid oes genych raid wrth ysgrifenu attoch, canys chwi eich hunain ydych wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd;
10
canys gwneuthur hyn yr ydych i’r holl frodyr y sydd yn holl Macedonia,
11
a chynghorwn chwi, frodyr, i ymhelaethu fwy-fwy, ac i roddi eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylaw, fel y gorchymynasom i chwi;
12
fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai oddi allan, ac na bo arnoch eisiau dim.
13
Ond nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sy’n huno, fel na thristaoch yn y modd y gwna’r lleill y sydd heb ganddynt obaith;
14
canys os credu yr ydym y bu i’ r Iesu farw ac adgyfodi; felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, Duw a’u dwg gydag Ef.
15
Canys hyn a ddywedwn wrthych chwi trwy air yr Arglwydd, Nyni y rhai byw, y sy’n cael ein gadael hyd ddyfodiad yr Arglwydd,
16
ni rag-flaenwn y rhai a hunasant; canys yr Arglwydd Ei hun gyda bloedd, gyda llef arch-angel, a chydag udgorn Duw, a ddaw i wared o’r nef; a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf;
17
wedi hyny nyni, y rhai byw, y rhai sy’n cael ein gadael, ynghyda hwynt y’n cipir i fynu, yn y cymmylau i’r awyr, i gyfarfod â’r Arglwydd, ac felly yn wastadol ynghyda’ r Arglwydd y byddwn.
18
Am hyny, diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5